Dydd Sul 12 Gorffennaf
Llanfest gyda James Morrison a Will Young

Fel diweddglo i Llangollen 2020, bydd James Morrison a Will Young, dau artist sydd wedi ennill Gwobr BRIT, yn rhannu llwyfan Llanfest gan gyflwyno setiau unigol sy’n cynnwys hen ffefrynnau a chaneuon newydd o’u halbymau diweddaraf.

Gyda rhyddhau ei albwm cyntaf, Undiscovered, daeth y canwr-gyfansoddwr, James Morrison yn seren dros nos. Aeth yr albwm ymlaen i werthu dros filiwn o gopïau gyda dilynwyr yn cael eu swyno gan brydferthwch ei lais trawiadol. Mae pum sengl ganddo wedi cyrraedd y 10 uchaf ac ymysg caneuon mwyaf cofiadwy eu cyfnod, gan gynnwys yr arloesol You Give Me Something a Wonderful World, yn ogystal â Broken Strings gyda Nelly Furtado.

Mae Will Young yn un o enwau mawr y byd pop dros y ddau ddegawd diwethaf. Daeth i enwogrwydd gyntaf ar ôl ennill cyfres agoriadol Pop Idol, a dilynodd hynny gyda gyrfa lwyddiannus gan gynnwys saith albwm wnaeth gyrraedd y 5 uchaf (gyda phedwar yn cyrraedd rhif un) a phedair sengl rhif 1 fel Leave Right Now a Jealousy wnaeth sicrhau ei safle fel enw eiconig yn niwylliant pop y DU.

Mae Llanfest wedi dod yn ffefryn mawr ymysg gŵyliau’r haf gyda llwyfannau awyr agored yn cynnwys cerddoriaeth fyw trwy gydol y dydd ac awyrgylch ymlaciol yng nghanol lleoliad ysblennydd Dyffryn Dyfrdwy.

Dydd Sul 12 Gorffennaf 2020 – 2.00yp
Tocynnau: £49.50