Dydd Llun 1 Gorffennaf
Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues

Bydd Jools Holland, Is-lywydd yr Eisteddfod a ffefryn mawr yr ŵyl, yn dychwelyd i Langollen gyda’i gerddorfa Rhythm a Blues chwedlonol am noson anhygoel o gerddoriaeth fyw. Yn cynnwys cyn-ddrymiwr Squeeze, Gilson Lavis, ochr yn ochr â’r lleisiau gwadd, Ruby Turner a Louise Marshall, yn ogystal â gwestai arbennig sydd i’w gadarnhau, mae’n argoeli bod yn wledd o gerddoriaeth jazz, blues a swing i agor ein cyfres o gyngherddau ar gyfer 2019. Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan fysedd chwim a rhythmau heintus Jools, fydd yn dod â noson fythgofiadwy o glasuron boogie-woogie a chaneuon ysbrydoledig sy’n siŵr o’ch cael i symud eich traed.

Dydd Llun 1 Gorffennaf 2019 – 7.30yh
Pris tocynnau: £42 / £35


Noddwyd gan