

Yn y Pafiliwn heddiw: Eleni bydd ein cystadleuaeth Bandiau Cymunedol yn dechrau’r dydd eto ar brif lwyfan y pafiliwn ac mae’n mynd i fod yn wych! Hefyd, heddiw, bydd ein corau Meibion, Merched, Ieuenctid a Chymysg yn brwydro ar gyfer rownd derfynol Côr y Byd gyda’r nos. Pwy fydd ein pencampwr eithaf ar gyfer 2025? Byddwn hefyd yn gweld amrywiaeth o ensembles dawns gwahanol yng nghystadleuaeth ddawns Pencampwyr Eithaf Llangollen a bydd unrhyw un a fethodd ein neges Heddwch a gyflwynwyd yn wreiddiol ar Ddiwrnod y Plant, yn cael cyfle i’w chlywed heddiw.
Offerynnol: Bandiau Cymunedol – Bydd Bandiau Pres, Chwyth neu Gyngerdd sy’n cynnwys pobl o bob oed yn perfformio rhaglen o ddau ddarn cyferbyniol o leiaf mewn perfformiad nad yw’n hwy na 12 munud o hyd. Bydd y rhaglen yn cynnwys o leiaf un darn gan gyfansoddwr o’r DU.
Beirniaid y cystadlaethau hyn:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Band Pres Hŷn Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Cymru
Llay Welfare Band, Cymru
Chester Big Band, England
Global Folk Arts International, India
Corawl: Corau Cymysg – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau cymysg 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 10 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr o wlad enedigol y côr ac o leiaf un darn digyfeiliant (gwreiddiol neu drefniant).
Beirniaid y cystadlaethau hyn:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Advent Euphonic Chorale, Philippines
Bob Cole Conservatory Chamber Choir, USA
Cantorion Ger y lli, Cymru
Coro de Cámara UCR | Proyecto UCRCORAL, Costa Rica
New Zealand Youth Choir, New Zealand
Royal Voices of Charlotte, USA
Corawl: Corau Merched (SSAA) – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau merched 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 10 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr o wlad enedigol y côr ac o leiaf un darn digyfeiliant.
Beirniaid y cystadlaethau hyn:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Le Voci, England
Peterborough Voices, England
Ysgol Glanaethwy, Cymru
Neges Heddwch:
Dawns: Pencampwyr Eithaf Llangollen – Bydd grwpiau o rhwng 4 a 30 o ddawnswyr 18 oed neu hŷn a hyd at gyfanswm o 8 cerddor a 2 gludwr baner yn perfformio unrhyw genre o ddawns am uchafswm o 6 munud. Gofynnir i’r gynulleidfa nodi eu hoff grŵp a bydd y ‘bleidlais’ hon yn cael ei nodi gan feirniad yr Eisteddfod wrth benderfynu ar y pencampwr.
Beirniaid y cystadlaethau hyn:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Association Culturelle Lumière, Républic of the Congo
Bon Bassa Productions, Trinidad and Tobago
Contemporary Choreography Ensemble “Flamingo” of the Kyiv Palace of Children and Youth, Ukraine
Folklore Dance Formation ‘Bulgaria’, Bulgaria
Groupe Jeunesse Tizwite, Morocco
Karen’s Dance Classes (KDC), Cymru
Kurdish Folklore dance, Kurdistan
Loughgiel Folk Dancers, Northern Ireland
Mother Touch Group of Schools, Zimbabwe
Pathway Dance Troupe, Zimbabwe
Ultimate Bhangra, India
Virasat Punjab di Culture Society, India
Corawl: Corau Meibion (TTBB) – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau meibion 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 10 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr o wlad enedigol y côr ac o leiaf un darn digyfeiliant (gwreiddiol neu drefniant).
Beirniaid y cystadlaethau hyn:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Bechgyn Bro Taf, Cymru
Cor Meibion Machynlleth, Cymru
Men in Blaque, USA
Toronto Northern Lights Chorus, Canada
Tocynnau Dydd:
Oedolion £13.78
Gostyngiadau £11.66
Plant £6.36
Tocynnau teulu ar gael
CLICIWCH YMA i archebu

Bydd ffioedd archebu
Mae’r pris yn cynnwys sedd heb ei chadw yn y Pafiliwn
Côr y Byd a Phencampwyr Dawns Lucille Armstrong 7:30pm
Bydd enillwyr y Corau Cymysg, Ieuenctid, Merched, Meibion ac Agored yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heno am y cyfle i ennill £3000 a thlws Pavarotti gyda rhaglen o 10 munud yr un. Byddwn hefyd yn arddangos yr enillydd o’r cystadlaethau Dawns Werin Draddodiadol a grŵp dawns gyda choreograffi/ arddull wrth iddynt gystadlu am deitl Pencampwyr Dawns a £500. Bydd diweddglo gwych Llais Rhyngwladol y Dyfodol hefyd yn cymryd rhan heno gyda gwobr o £3000 i’w hennill.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Tocynnau: £40.70/£29.50
Bydd ffioedd archebu
CLICIWCH YMA i archebu