
Fis Gorffennaf eleni bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Ymylol Llangollen yn ymuno i ddathlu dwy garreg filltir ddiwylliannol arwyddocaol i’r dref; Dathlu’r Eisteddfod yn 75, a’r Ŵyl Ymylol yn 25; 100 mlynedd anhygoel o wyliau haf yn Llangollen.
I nodi’r ddau ben-blwydd yma, mae’r Eisteddfod a’r Ŵyl Ymylol yn cydweithio i gynnal Llanfest 2022, ar ddydd Sul 10 Gorffennaf a fydd yn gweld y rhaglen yn cael ei churadu ar y cyd, gan dynnu sylw at amrywiaeth unigryw yr Ŵyl Ymylol o gerddoriaeth, theatr a chomedi eclectig, gydag uchafbwyntiau o’u rhaglen dros y 25 mlynedd.
Cefnogir yn hael gan Lottery Heritage Fund

Mae Parc Pendine ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi derbyn buddsoddiad gan CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru i gryfhau a datblygu eu partneriaeth greadigol.


Noddir Llafest Ar y Maes yn garedig gan:
