

Yn y Pafiliwn heddiw: Heddiw yn y pafiliwn rydym yn cychwyn gyda’n cystadleuaeth ensemble Offerynnol. Gydag amrywiaeth hyfryd o ensembles o bob rhan o’r byd mae’n siŵr o’ch paratoi ar gyfer diwrnod llawn o gystadlaethau. Gyda rowndiau terfynol Dawns, Corau Plant ac unawdau Offerynnol mae’n ddiwrnod na ddylid ei fethu!
Offerynnol: Ensemble Offerynnol – yn cynnwys rhwng 6 a 30 aelod o unrhyw oedran yn cyflwyno rhaglen o ddau ddarn cyferbyniol mewn unrhyw arddull neu genre yn para hyd at 8 munud. Gall ensembles gynnwys unrhyw gyfuniad o offerynnau a gallant fod yn gerddorfaol, pres, gwerin, cyfoes, jazz, chwyth, ac ati.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn nhrefn yr wyddor:
Global Folk Arts International, India
Reverberance, Singapore
Folk music ensemble “Perotsvit”, Ukraine
Mother Touch Group of Schools, Zimbabwe
Unawd: Rownd Derfynol Llais Rhyngwladol y Theatr Gerdd – mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer cantorion 18 oed a hŷn, a bwriad y wobr fawreddog yw hyrwyddo gyrfa perfformiwr theatr gerdd amatur. Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn perfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at 10 munud o gerddoriaeth wedi’i dewis o’r repertoire theatr gerdd safonol. Bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Dawns Werin: Dawns Werin Draddodiadol – mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer grwpiau gydag isafswm o 4 dawnsiwr 16 oed neu hŷn. Byddant yn perfformio rhaglen o hyd at 6 munud yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin eu diwylliant. Gall hyd at 8 cerddor a 2 gludwr baneri fod gyda nhw.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Association Culturelle Lumière, Républic of the Congo
Batimbo Percussion Magique, Burundi
Bon Bassa Productions, Trinidad and Tobago
Contemporary Choreography Ensemble “Flamingo” of the Kyiv Palace of Children and Youth, Ukraine
Groupe Jeunesse Tizwite, Morocco
Hoolterdaansers, The Netherlands
Jodi Dancers, India
Kurdish Folklore Dance, Kurdistan
Lok Nach Bhangra Academy, India
Loughgiel Folk Dancers, Northern Ireland
Nachda Punjab Youth Club, India
Radist Liverpool, Ukraine
Team Abagendera Akaranga, Burundi
Ultimate Bhangra, India
Virasat punjab di culture Society, India
Unawd: Llais Clasurol Ifanc y Dyfodol – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer cantorion 13 i 17 oed a fydd yn perfformio rhaglen hyd at 6 munud o gerddoriaeth. Rhaid i’r Rhaglen gynnwys darnau cyferbyniol o’r genre clasurol a bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Corawl: Corau Alawon Gwerin Plant – Mae’r gystadleuaeth corau plant yma ar gyfer cantorion 18 oed ac iau. Byddant yn canu rhaglen 7 munud o hyd, a fydd yn cynnwys repertoire o ganeuon gwerin traddodiadol o wlad enedigol y côr.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
The Musical Originals Singers, Jersey, Chanel Islands
Palmdale High School Choral Union, USA
Pathway School Choir, Zimbabwe
Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Cymru
Cor Heol y March, Cymru
YSGOL GLANAETHWY, Cymru
Merched Plastaf, Cymru
Ysgol BrynHyfryd, Cymru
Unawd: Cerddor Rhyngwladol y Dyfodol – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer offerynwyr rhwng 15 a 22 oed a fydd yn perfformio rhaglen hyd at 8 munud o gerddoriaeth yn y rownd derfynol. Bydd eu rhaglen yn cynnwys gweithiau clasurol cyferbyniol.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Unawd: Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Dyfodol – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer Offerynwyr rhwng 9 a 14 oed a fydd yn perfformio rhaglen hyd at 6 munud o gerddoriaeth yn y rownd derfynol. Bydd eu rhaglen yn cynnwys gweithiau clasurol cyferbyniol.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Tocynnau Dydd:
Oedolion £13.78
Gostyngiadau £11.66
Plant £6.36
Tocynnau teulu ar gael
CLICIWCH YMA i archebu:

Bydd ffioedd archebu
Mae’r pris yn cynnwys sedd heb ei chadw yn y Pafiliwn