Bydd y canwr roc chwedlonol Roger Daltrey yn agor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025 gyda noson yn llawn caneuon enwocaf The Who, ei ganeuon ei hun, a’i sesiynau holi ac ateb sydd bellach yn enwog, lle bydd yn sgwrsio â’r cefnogwyr sydd wedi bod gydag ef dros y degawdau.
Bydd Daltrey yn perfformio perlau acwstig a lled-acwstig gan y band chwedlonol, ac yn ymchwilio i’w ôl-gatalog fel unawdydd sy’n dyddio’n ôl bron i 50 mlynedd.
Tocynnau – £107.90 | £85.50 | £68.70