

Yn y Pafiliwn heddiw:
Ni ddylid methu’r diwrnod llawn cyntaf o gystadlaethau gan fod y corau Agored Iau, Hŷn a Phlant yn cymryd i’r llwyfan. Fel ffordd o ddathlu llwyddiannau gwych plant a phobl ifanc, bydd Tlws arbennig a £500 ychwanegol i’r côr sy’n sgorio uchaf o blith y corau plant yn cael ei ddyfarnu ar ddiwedd y dydd. Yn ymuno â ni hefyd mae grwpiau dawns gwerin Plant ynghyd â chystadleuwyr unigol lleisiol ac offerynnol.
Corawl: Côr Plant Hŷn – Mae’r gystadleuaeth côr plant hon ar gyfer cantorion 12 i 18 oed. Byddant yn canu rhaglen gyferbyniol o 6 munud a fydd yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr sydd dal yn fyw.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Ardingly College, England
Cantabile Girls Choir, England
Cor Heol y March, Cymru
Key Voices, England
Merched Plastaf, Cymru
Palmdale High School Choral Union, USA
The Heritage School, Zimbabwe
The Musical Originals Singers, Jersey
Tiffany Lau Vocal Performance Academy, China
Ysgol BrynHyfryd, Cymru
Ysgol Gerdd Ceredigion, Cymru
Ysgol Glanaethwy, Cymru
Corawl: Corau Agored Plant – Mae’r gystadleuaeth hon i blant ar gyfer corau bechgyn, genethod neu gymysg 17 oed neu iau. Byddant yn canu rhaglen o 7 munud. Bydd y rhaglen yn arddangos un genre yn unig (e.e. Acapella, siop barbwr, clasurol, glee, gospel, jazz, pop, sioe, theatr gerdd) a bydd hefyd yn cynnwys o leiaf un darn digyfeiliant.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Bax Choir, Heath Mount School, England
Cor Heol y March, Cymru
Merched Plastaf, Cymru
The Musical Originals Singers, Jersey, Chanel Islands
Tiffany Lau Vocal Performance Academy, China
Ysgol Gerdd Ceredigion, Cymru
Ysgol Glanaethwy, Cymru
Dawns: Grŵp Dawns Werin Draddodiadol i Blant – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer grwpiau dan 16 oed. Byddant yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin gyda rhaglen am 4 munud o’u diwylliant eu hunain. Bydd ganddynt gerddorion a chludwyr baneri. Gellir defnyddio cerddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llaw ar gyfer y gystadleuaeth hon hefyd.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Kurdish folklore dance, Kurdistan
Loughgiel Folk Dancers, Northern Ireland
Mother Touch Group of Schools, Zimbabwe
Nachda Punjab Youth Club, India
Pathway Dance Troupe, Zimbabwe
Radist Liverpool, Ukraine
Sheerer Punjab Nottingham, India
Tobago Alpha Dance Academy, Trinidad & Tobago
Ultimate Bhangra, India
Virasat Punjab di Culture Society, India
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Cymru
Corawl: Côr Plant Iau – Mae’r gystadleuaeth côr plant yma ar gyfer cantorion 11 oed ac iau. Byddant yn canu rhaglen gyferbyniol o 6 munud, a fydd yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr sydd dal yn fyw.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Cor Ysgolion Cymraeg Pontypridd, Cymru
Deansfield Primary School Choir, England
Gray’s Inn Singers, City Junior School, England
Lindley Junior School Choir, England
The Heritage School, Zimbabwe
Ysgol Gerdd Ceredigion, Cymru
Ysgol Glanaethwy, Cymru
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Cymru
Ysgol Penbarras, Cymru
Ysgol Plas Coch, Cymru
Côr Ifanc y Byd
Fel ffordd o ddathlu llwyddiannau gwych plant a phobl ifanc y corau buddugol, mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno Tlws Rhyngwladol arbennig a £500 ychwanegol i enillydd Côr Ifanc y Byd. Bydd y côr buddugol a ddewisir o blith enillwyr cystadlaethau A6 i A8 yn cael ei gyhoeddi yn seremoni Côr Ifanc y Byd ddiwedd y dydd, ddydd Mercher 9 Gorffennaf 2025.
Bydd Gwobr Arweinydd o £200 ar gyfer yr arweinydd mwyaf ysbrydoledig a Medal Ryngwladol yn cael eu dyfarnu i arweinydd mwyaf ysbrydoledig rownd derfynol Côr Ifanc y Byd. Arian gwobr a thlws rhoddedig gan Dr a Mrs Rhys Davies er cof am eu mab Owen Davies.
Beirniaid y gystadleuaeth hon:
4:30yp Gorymdaith y Cenhedloedd – Dyma ein sioe flynyddol lle mae grwpiau sy’n cymryd rhan o bob rhan o’r byd yn dawnsio, canu a chwarae eu hofferynnau cerdd wrth iddynt wau eu ffordd drwy strydoedd Llangollen. Gan wisgo eu gwisg genedlaethol a chwifio eu baneri, mae’r grwpiau’n mynd ar hyd y strydoedd er mawr lawenydd i’r llu sy’n ymgasglu i’w croesawu i’r dref.
Tocynnau Dydd:
Oedolion £13.78
Gostyngiadau £11.66
Plant £6.36
Tocynnau teulu ar gael
CLICIWCH YMA i archebu:

Bydd ffioedd archebu
Mae’r pris yn cynnwys sedd heb ei chadw yn y Pafiliwn