Cyn-aelod o’r Snowflakes yn ailymweld â lleoliad ei buddugoliaeth yn 1947

Mae aelod o gôrplant o Gaerdydd a enillodd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed wedi bod yn ymwelydd brwdfrydig â’r 70ain ŵyl.

Mae’r nain Janette Snaith bellach yn byw yn Colchester gyda’i gŵr, Bryan, clerigwr sydd wedi ymddeol, ond yn ôl yn 1947 roedd y ferch 14 oed o Barc Fictoria, Caerdydd, yn aelod o’r côr enwog, Snowflakes.

Serennodd y merched ysgol o Gaerdydd yn yr ŵyl gyntaf drwy ennill y gystadleuaeth côr plant, gan fynd ymlaen i wneud recordiau ac i fynd ar lawer o deithiau.snowflakes-4-1280x596
Daeth Janette, y nain 83 oed llawn asbri, i Langollen fel gwestai arbennig i’r Eisteddfod, a mwynhaodd ddiwrnod o wrando ar gystadleuwyr heddiw.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn hyfryd ac rwyf wir wedi mwynhau. Mae’r blodau yn ffantastig, mae llawer mwy ohonynt nag oedd yn 1947.”

“Bryd hynny roedden ni gyd yn gwisgo dillad gwyn lawr i’n sanau a doedden ni erioed wedi cyfarfod â neb o Ewrop gynt oherwydd y rhyfel.

“Roedd yn sioc oherwydd roedd pawb yn dawnsio ac yn canu.

“Ond roedd yn anodd iawn i ni. Roedden ni’n cysgu mewn ffatri ar welyau bync ac roedd rhaid i ni ymarfer y scales cyn brecwast, ac wedyn roedden ni’n mynd i gapel i ymarfer ac ymarfer.”

Fodd bynnag, fe wnaeth yr holl ymarfer dalu ei ffordd gan iddynt ennill a mynd ymlaen i ganu ledled y DU ac Ewrop, gan gynnwys yn Neuadd Albert yn agoriad y Neuadd Ŵyl Frenhinol yn Llundain.snowflakes-1-1280x903

Ffurfiwyd y Snowflakes yn 1926 gan Gwenllian Williams, a parhaodd y côr wedyn dan arweiniad ei merched Eira Novello a Marion Williams.

Mi wnaethon nhw ddychwelyd i’r Eisteddfod yn 1949 gan ennill eto a mynd ymlaen i wneud tair record gyda label recordiau Decca.

Roeddent yn gôr enwog iawn yn eu dydd ac aeth un cyn aelod i Hollywood.

Gadawodd Ira Stevens ei chartref yn Stryd Dogo, Caerdydd, yn 1936 er mwyn mynd i Los Angeles fel actor cysgodol i Shirley Temple, gan ymddangos mewn sawl ffilm cyn dychwelyd i Gymru yn 1939.

“Rwy’n dal i fwynhau cerddoriaeth,” dywedodd Janette sy’n byw gydag un o’i dau o feibion, ac ychwanegodd: “Mae’r tŷ yn dal i fod yn llawn cerddoriaeth ond yn anffodus dyw fy llais ddim cystal nawr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yr wŷl, Eilir Owen Griffiths, sy’n byw yng Nghaerdydd: “Mae’n wych bod Janette wedi gallu teithio yma o Colchester gyda’i gŵr a mwynhau diwrnod yma gyda ni.

“Byddem wrth ein boddau yn croesawu unrhyw aelodau eraill o’r Snowflakes yma eto yn enwedig ar gyfer pen-blwydd yr ŵyl yn 70 y flwyddyn nesaf.”

Roedd sawl côr Cymreig yn yr Eisteddfod Llangollen gyntaf erioed yn ogystal â’r Snowflakes, gan gynnwys Penarth Ladies Choral Society a’r Mid Rhondda Ladies Musical Society a fu’n cystadlu yn erbyn corau ar draws y DU, Gwlad Belg, Portiwgal, yr Eidal, Sbaen, Sweden, y Swistir, Denmarc, yr Iseldiroedd a Hwngari.

Mae’r dydd Sadwrn hwn wedi ei neilltuo i’r corau gorau ac yn gorffen â chystadleuaeth Côr y Byd er mwyn ennill Tlws Pavarotti. Bydd diwrnod byrlymus ar y dydd Sul yn yr Eisteddfod ar gyfer Llanfest cyn uchafbwynt: y cyngerdd cloi gyda Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues.

I ddarllen mwy am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’i chystadlaethau a’i chyngherddau, yn ogystal â sut i’w chyrraedd a llefydd i aros ewch i https://international-eisteddfod.co.uk/ neu https://www.facebook.com/llangollen