
Mae yna gymaint o ffyrdd y gall busnesau a sefydliadau lleol gymryd rhan yn Eisteddfod Llangollen. Gyda miloedd lawer o ymwelwyr yn tyrru i’r maes gydol yr wythnos, mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’ch busnes tra’n helpu ni mewn rhyw fodd.
Gallwch ein noddi mewn amrywiaeth eang o ffyrdd – mae mwy o wybodaeth ar y dudalen hon
Efallai y cewch ysbrydoliaeth ynghylch sut y gallwch chi gyfrannu gan rai o’n cefnogwyr presennol:
- Mae Tesco yn rhoi gwerth £1,000 o frechdanau ar gyfer gwirfoddolwyr
- Mae grwpiau busnes lleol yn manteisio ar yr Eisteddfod i rwydweithio’n gofiadwy. Mae’r EIsteddfod yn lle gwych i wneud busnes.
Rydym ni hefyd wedi creu ychydig o becynnau cyfleus:
Am gyfraniadau hyd at £200 fe gewch chi:
Eich rhestru ein Tudalen Cefnogwyr Busnes
Croeso i dderbyniad diod cyn y cyngerdd i fusnesau ar nos Iau yr Eisteddfod.
Disgownt ar docynnau dydd y maes i staff
Am gyfraniadau dros £200 byddwn hefyd yn rhoi dau docyn am ddim i chi ar gyfer cyngerdd nos Iau a rhaglen swyddogol am ddim
I ganfod rhagor e-bostiwch commercial@llangollen.net