Y mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) am ddathlu pobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang yn eu hysgol, eu cymuned leol neu’n ehangach mewn amryw ffordd.
Oherwydd Covid-19 cynhelir Gwobrau Heddychwyr Ifanc ar-lein eleni. Cyhoeddir enwau enillwyr y gwahanol gategorïau yn ystod seremoni rithiol ar 9 Gorffennaf yn Llangollen Arlein.
Categorïau
- Arwr/Arwyr Ifanc y Flwyddyn
- Dinasyddion Byd-eang Ifanc y Flwyddyn
- Sgwennwr/Sgwenwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn
- Artist/Artistiaid Heddwch Ifanc y Flwyddyn
- Perfformwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn
- Dadansoddwr/Dadansoddwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn
Enillwyr 2020
