Enillydd Grammy yn ymweld â Llangollen

Yr Eisteddfod Ryngwladol yn croesawu’r cyfansoddwr byd enwog, Christopher Tin, i Langollen

Fe ddaeth y cyfansoddwr Americanaidd a’r enillydd Grammy, Christopher Tin, i ymweld â Llangollen am y tro cyntaf ddydd Llun Ebrill 10fed – cyn ei berfformiad hir ddisgwyliedig yn nathliadau pen-blwydd 70ain yr Eisteddfod Ryngwladol yr haf hwn.

Cafodd Christopher Tin, a enillodd y wobr Grammy gyntaf am gyfansoddi i gêm gyfrifiadurol gyda’r thema i ‘Civilisation IV Baba Yetu’, ei gyfarch yn Llangollen gan aelodau o dîm yr Eisteddfod â Chorws Dathlu Llangollen. Cafodd hefyd ei dywys o amgylch y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, lle bydd yn perfformio ar 5ed Gorffennaf. 

Wedi’i noddi gan noddwr hynaf yr Eisteddfod, y cwmni Kronospan, fe fydd arlwy’r gyngerdd yn cynnwys Tin yn arwain y soprano Elin Manahan Thomas, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a’r Corws Dathlu mewn perfformiad arbennig iawn. Ac yn cadw trefn ar y cyfan fydd y cyflwynydd Classic FM, Andrew Collins.

Gan bwysleisio neges yr Eisteddfod o undod rhyngwladol, fe fydd hanner cyntaf y noson yn cyflwyno sbectrwm cerddorol i’r gwrandawyr gyda phopeth o gyflwyniadau symffonig i themâu gemau cyfrifiadurol. Yn yr ail hanner, perfformiad o gylch caneuon Christopher Tin Calling All Dawns fydd yn cael sylw arbennig.

Mae’r cylch caneuon, sy’n cynnwys Baba Yetu, yn defnyddio enghreifftiau o ddeuddeg iaith wahanol ac, yn y cefndir, fe fydd perfformiadau gan gystadleuwyr rhyngwladol yn cael eu dangos. Bydd y rhain yn cyfleu tri symudiad gwahanol a thair adeg wahanol o’r dydd – dydd, nos a gwawr – gan gyd-fynd a chyfnodau gwahanol o fywyd.

“Roedd cyfarfod y tîm y tu ôl i’r digwyddiad arbennig hwn a chlywed Corws Dathlu Llangollen, côr y bydda i yn cael y pleser o’u harwain, yn golygu bod yr ymweliad hwn wedi bod yn un cyffrous iawn,” dywedodd Tin. “Mae’r neges o heddwch ac undod sydd wrth graidd yr Eisteddfod yn cyd-fynd yn berffaith gyda fy nghyfansoddiad i Calling All Nations, sy’n canolbwyntio ar y syniad o undod be bynnag bo hil, diwylliant, neu gredoau crefyddol rhywun.”

“Mae’n fraint i fod yn rhannu llwyfan, nid yn unig â thalent y noson, ond hefo’r holl artistiaid gwych fydd yn perfformio drwy gydol yr wythnos a’r holl rai sydd wedi diddanu o lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ar hyd y blynyddoedd.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths:

“Fe fydd ymddangosiad Christopher yn Eisteddfod Llangollen yn sicr o fod yn brofiad a hanner i’r gynulleidfa. Mewn rhaglen amrywiol, bydd yn cyflwyno ystod eang o arddulliad cerddorol, caneuon o lawenydd, amwysedd, tristwch a chaledi yn ogystal â chaneuon o obaith.

“Gyda’r cyflwynydd Classic FM Andrew Collins wrth y llyw, mae’n sicr o fod yn noson ysbrydoledig iawn.”

Dywedodd Chris Ryan, Ysgrifennydd Grŵp y cwmni gweithgynhyrchu paneli pren, Kronospan, sy’n noddi’r gyngerdd: “Mae creadigrwydd wedi bod wrth galon yr hyn a wna Kronospan, felly rydym yn teimlo parch mawr tuag at arloeswyr eraill.

“Nid yn unig y mae gwaith Christopher Tin yn adlewyrchu ethos Eisteddfod Llangollen i’r dim, mae hefyd yn arddangos creadigrwydd di ben draw. Mae ei gylchoedd canu yn cyfuno traddodiadau lleisiol gwahanol ac ieithoedd gwahanol mewn cyd-destun symffonig, gan ddod a cherddoriaeth glasurol i gynulleidfaoedd eang ac amrywiol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed ei waith ym mis Gorffennaf.”

Tocynnau ar werth yma