Prosiect Cynhwysiad yn Gyrru Neges o Heddwch am y Ddegfed Flwyddyn

Bu i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddathlu degawd o’i Phrosiect Cynhwysiad heddiw (dydd Mercher 4ydd Gorffennaf) gyda pherfformiad o waith comisiwn newydd, SEND A Message, ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol.

Wedi’i ariannu gan grant hael gan Sefydliad ScottishPower, fe wnaeth y perfformiad gydio yng nghalonnau a dychymyg cynulleidfa’r ŵyl, wrth i bum grŵp o Gymru a Swydd Amwythig ddod at ei gilydd i ddiddanu’r dorf gynhyrfus.

Y grwpiau wnaeth gymryd rhan eleni oedd Ysgol Tir Morfa, ysgol arbennig gymunedol yn Rhyl sy’n darparu addysg i blant 3-19 oed gydag ystod o anghenion dysgu; ysgol arbenigol St Christopher’s yn Wrecsam; Derwen on Tour (DOT), grŵp o fyfyrwyr Astudiaethau Creadigol o Goleg Derwen yn Gobowen, Swydd Amwythig sy’n cynnig gweithdai arwyddo Makaton, canu a dawnsio; Ysgol Plas Brondyffryn o Ddinbych, canolfan ranbarthol gogledd Cymru ar gyfer addysg awtistiaeth; a Theatretrain Regional Choir o Wyddgrug.

Gan adlewyrchu’r amrywioldeb cymuned ac ethos yr Eisteddfod Ryngwladol o hyrwyddo dealltwriaeth a derbyniad trwy gerddoriaeth a dawns, rhoddodd y prosiect cwbl gynhwysol gyfle i bob un o’r pum grŵp gyflwyno perfformiad byr, cyn uno i berfformio’r darn llawn. Cafodd y diweddglo ei selio ar syniadau’r grŵp ar y thema ‘gyrru neges’, gan hyrwyddo’r syniad o annog cariad a heddwch trwy gerddoriaeth, can a dawns.

Cyfansoddwyd y darn comisiwn arbennig gan y bardd Aled Lewis Evans a’r cyfansoddwr Owain Llwyd. Cafodd y perfformiad ei goreograffu gan Angharad Harrop, gyda Leslie Churchill Ward fel Cydlynydd Artistig.

Er mwyn dathlu deng mlynedd ers cychwyn y prosiect a phwysleisio ei effaith, cafodd grwpiau oedd wedi bod yn rhan o’r Prosiect Cynhwysiad dros y blynyddoedd eu gwahodd yn ôl i’r ŵyl i berfformio ar y llwyfannau allanol, a gwylio grwp eleni ar y prif lwyfan.

Dywedodd y Cydlynydd Artistig, Leslie Churchill Ward: “Mae’r Prosiect Cynhwysiad yn agos at galon pawb yma yn Eisteddfod Llangollen, am ei fod yn rhoi cyfle i bobl sydd ddim fel arfer yn debygol o berfformio ar lwyfan o flaen cynulleidfa ryngwladol.

“Gyda chymorth hael a pharhaol Sefydliad ScotishPower, rydym wedi llwyddo i gyflwyno’r nôd pwysig o gynhwysiad yn yr ŵyl ers degawd – a bydded iddo barhau!”

Ychwanegodd Ann McKechin, Ymddiriedolwr a Swyddog Gweithredol Sefydliad ScotishPower: “Unwaith eto, roedd y perfformiad eleni yn llwyddiant ysgubol a hoffem longyfarch pob un o’r grwpiau.

“Bob blwyddyn, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn parhau gyda’i ymrwymiad i gynhwysiad, trwy roi cyfle i bobol gyda galluoedd amrywiol ddod at ei gilydd a dysgu o’i gilydd – cyn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol.

“Mae Sefydliad ScotishPower yn barod iawn i ariannu prosiectau fel hyn sy’n cefnogi’r celfyddydau, lleihau anghydraddoldeb ac yn ysbrydoli pobl i gyrraedd eu llawn botensial.”