Eisteddfod Ryngwladol yn cyhoeddi Llangollen Ar-lein

#CysyllturByd
1 Mehefin – 11 Gorffennaf 2020

Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi Llangollen Ar-lein #cysyllturbyd, a fydd ar gael i’w gwylio am ddim rhwng 1 Mehefin ac 11 Gorffennaf, er mwyn sicrhau ein bod yn aros adref gyda’n gilydd ond yn parhau i hyrwyddo cymuned ryngwladol gysylltiedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd yr Eisteddfod Ryngwladol y dylid gohirio gŵyl 2020 oherwydd pandemig byd-eang COVID-19. Roedd y trefnwyr, fodd bynnag, yn benderfynol o barhau i gyflwyno profiad yr Eisteddfod Ryngwladol, a chanfod rhyw ffordd i’w chymuned ryngwladol o gyfranogwyr, perfformwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr barhau i gadw mewn cysylltiad a dod at ei gilydd yn y cyfnod caled yma.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd yr Eisteddfod Ryngwladol y dylid gohirio gŵyl 2020 oherwydd pandemig byd-eang COVID-19. Roedd y trefnwyr, fodd bynnag, yn benderfynol o barhau i gyflwyno profiad yr Eisteddfod Ryngwladol, a chanfod rhyw ffordd i’w chymuned ryngwladol o gyfranogwyr, perfformwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr barhau i gadw mewn cysylltiad a dod at ei gilydd yn y cyfnod caled yma

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry: “Roedd yn teimlo’n hanfodol ein bod ni’n ceisio dod â’n cymuned fyd-eang ynghyd i rannu cerddoriaeth a dawns ac, wrth gwrs, parhau â’n neges o heddwch a harmoni. Fel arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mi fyddai ein staff a’n gwirfoddolwyr a’r gymuned leol yn gweithio’n gyflym i roi‘r ŵyl ar ei thraed, ac rydym hefyd wedi cael llawer o negeseuon gan gyfranogwyr tramor yn dweud wrthym gymaint y maen nhw’n ein colli ni a phrofiad yr Eisteddfod. Felly mewn rhyw ffordd eleni roeddem eisiau gallu cysylltu a rhannu ar blatfform gwahanol orau ag y gallem.

O heddiw ymlaen (1 Mehefin) gan weithio ar y cyd â’n partneriaid ym myd y cyfryngau, Rondo Media, bydd cynulleidfaoedd yn gallu gwylio cystadlaethau a phleidleisio ar-lein am eu hoff foment ar lwyfan Llangollen.TV. Bydd y deunydd archif yn cael ei gyflwyno mewn pum categori: Corau Cymysg, Siambr ac Ieuenctid; Unawdwyr Lleisiol a Chorau Barbershop; Corau Plant; Grwpiau a Chorau Gwerin; a Dawns Oedolion ac Ieuenctid. Cyhoeddir enillwyr y pleidleisio ym mhob categori yn ddyddiol yn ystod wythnos yr Eisteddfod (7-11 Gorffennaf).

Dywedodd Gareth Williams, Rondo Media, “Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn pori drwy archif yr Eisteddfod, sy’n cynnwys 25 mlynedd o ffilm yn arddangos perfformwyr o 57 o wahanol wledydd, a dros 10,000 o gystadleuwyr. Yn 2019, yn y cyfnod yn arwain at wythnos yr Eisteddfod, mi wnaethon ni gynnal pleidlais ar-lein i ddod o hyd fel Enillydd Pencampwr yr Enillwyr yng nghystadleuaeth Côr y Byd. Profodd hynny’n hynod boblogaidd ac felly roeddem yn gwybod bod awydd ymysg cynulleidfa graidd yr Eisteddfod Ryngwladol am rywbeth tebyg. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag S4C ers blynyddoedd lawer i rannu’r Eisteddfod Ryngwladol gyda chynulleidfaoedd y tu hwnt i Llangollen a ledled Cymru. Roeddem yn teimlo bod cyfuno cystadlaethau ar-lein gyda’r rhaglen ddogfen yn ffordd dda o roi profiad Eisteddfod Llangollen ychydig bach yn wahanol yn ystod yr amseroedd anodd hyn.”

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gynnwys newydd i ategu’r ffilmiau o’r archif. Mae hyn yn cynnwys Heddwch a Harmoni: Byd gwâr yw ein byd o gân, geiriau’r bardd arobryn, Mererid Hopwood, sy’n canolbwyntio ar egwyddorion sefydlu’r Eisteddfod, sef y nod o ddod â chymunedau rhyngwladol ynghyd mewn heddwch a chytgord.

Dywedodd Edward-Rhys Harry, “Mae llu o weithgareddau yn gysylltiedig â hyn, ar ddydd Mawrth, bydd y Neges Heddwch yn rhoi’r lle canolog i blant a phobl ifanc, felly bydd, i bob pwrpas, yn cymryd lle neges Diwrnod y Plant eleni. Bydd neges dydd Iau yn rhoi lle canolog i amryw o ddigwyddiadau pwysig: neges gan ein Llywydd Terry Waite, y gwaith comisiwn newydd gan Mererid Hopwood, a fydd yn helpu i adrodd hyn, ynghyd â nifer o’n gwirfoddolwyr, plant a chyfranogwyr eraill, a chân o heddwch a gobaith.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i’w helpu gyda chydlynedd busnes trwy 2020, gan gynnwys cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau 2021.

Dywedodd y Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn un o ddigwyddiadau mwyaf blaenllaw yr haf yng Nghymru ac rwy’n falch iawn y byddwn yn dal i allu cael profiad o’r ŵyl eleni trwy’r cyfryngau digidol. Mae’r arloesedd a’r creadigrwydd a ddangoswyd gan ein sector digwyddiadau a diwydiannau creadigol wedi bod yn rhagorol – ac mae’n caniatáu i bobl o bob cwr o’r byd ddod at ei gilydd a darparu llwyfan i rannu a dathlu yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

Mae’r pleidleisio’n agor heddiw ar Llangollen.TV ac yn cau ar 30 Mehefin 2020. Bydd mwy o fanylion y rhaglen a’r digwyddiadau yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.

 

Llangollen Ar-lein: noddyd gan

 

Llangollen.TV 2020 : noddyd gan