Trefniadau Eisteddfod Ryngwladol yn dwyn ffrwyth

Cafodd cefn gwlad Cymru ei lenwi gyda cherddoriaeth yr wythnos diwethaf, pan wnaeth aelodau Côr Meibion Froncysyllte arddangos eu techneg lleisiol wrth hedfan trwy’r awyr ar siglen bum sedd fwyaf Ewrop.

Gan gyrraedd uchderau o hyd at 80 troedfedd, roedd yr aelodau rhwng 60-80 oed yn wynebu her anarferol wrth iddyn nhw orfod dal eu nodau, yn hytrach na’u gwynt, wrth baratoi at ganu dan bwysau yn yr Eisteddfod Ryngwladol eleni.

Dafliad carreg o Langollen, cafodd Côr Meibion Froncysyllte ei sefydlu yn 1947 yn benodol ar gyfer cystadlu yn yr ail Eisteddfod Ryngwladol. Daw’r 72 aelod o gefndiroedd gwahanol, gyda heddweision, athrawon, cogyddion, bancwyr, cyfrifwyr, adeiladwyr ac eraill sydd wedi ymddeol yn canu yn y côr.

Mae cystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gyfle arbennig i gorau ledled y byd, yn enwedig i Gôr y Fron sy’n cystadlu gyda dau o’r aelodau gwreiddiol, sy’n ddim llai na 86 oed!

Dywedodd Vicky Yannoula, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Mae cystadleuwyr yr Eisteddfod yn paratoi yn drylwyr iawn ar gyfer yr ŵyl eleni.”

“Mae’r Eisteddfod wrth galon y gymuned leol yn Llangollen ac mae’n arbennig iawn cael croesawu Côr y Fron yn ôl ar gyfer ei 70ain ymddangosiad, yn enwedig ar ôl y rhaglen hyfforddiant anhygoel a welwyd yn Zip World yr wythnos diwethaf.”

Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn rhedeg o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf i ddydd Sul 8fed Gorffennaf gyda chyfres o gyngherddau nos gydag Alfie Boe, Van Morrison a Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader. Yn ogystal, fe fydd perfformiadau byw gan gystadleuwyr, bandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd o bedwar ban byd ynghyd ȃ gweithgareddau plant, stondinau bwyd a chrefftau lleol.

Am fwy o wybodaeth, neu i archebu tocynnau, cliciwch yma neu cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001. Am y newyddion diweddaraf ynglyn a’r ŵyl, dilynwch ein cyfrif Twitter @llangollen_Eist neu ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.