Eisteddfod Ryngwladol yn chwilio am gantorion talentog i ymuno â Chorws Dathlu pen-blwydd yn 70ain

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ail greu traddodiad poblogaidd trwy sefydlu côr o dalent lleol i ddathlu pen-blwydd yr ŵyl yn 70ain.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar gantorion angerddol i ymuno â ‘Chorws Dathlu’ arbennig ar gyfer yr ŵyl yn 2017.

Wrth edrych ymlaen at nodi 70ain mlynedd o’r Eisteddfod Ryngwladol, mae bwriad i sefydlu ‘Corws Dathlu’, gyda sesiwn agored i bobl sy’n awyddus i gymryd rhan yn cael ei gynnal yn Eglwys St John’s yn Llangollen dydd Sadwrn 28 Ionawr.

Bydd y ‘Corws Dathlu’ yn perfformio yn yr Eisteddfod ac yn cyflwyno ‘Calling All Dawns’ gan Christopher Tin ar ddydd Mercher 5 Gorffennaf o flaen cynulleidfa fyw yn y Pafiliwn Rhyngwladol enwog.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Eilir Griffiths: “Mae’r ‘Corws Dathlu’ wedi bod yn uchafbwynt i’r ŵyl yn y gorffennol ac rydym yn hynod o falch i barhau â’r traddodiad hwn wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 70ain.

“Pob blwyddyn, mae’r gefnogaeth gan y gymuned leol yn anhygoel ac mae’n braf gweld pobl yn gwneud ymdrech i fod yn rhan o’r Eisteddfod.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo’n angerddol am ganu i ymuno â ni yn yr ymarferion er mwyn bod yn rhan o berfformiad arbennig o’r cylch caneuon hwn sydd, gyda’i neges o undod, yn addas iawn ar gyfer llwyfan yr Eisteddfod. Byddai profiad blaenorol o ganu mewn côr yn fantais, ond mae croeso i unrhyw un sy’n medru cadw at amserlen yr ymarferion i ymuno.

“Boed yn soprano, alto, tenor neu fas – neu hyd yn oed os nad ydych yn siŵr pa lais ydych chi – ewch amdani!”

Mae niferoedd y ‘Corws Dathlu’ yn gyfyng felly bydd aelodau’n cael eu dewis yn yr ymarfer yn Eglwys St John’s, Abbey Road, Llangollen, LL20 8SW ar ddydd Sadwrn, 28 Ionawr rhwng 10:00-13:00.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r ‘Corws Dathlu’, cysylltwch â info@international-eisteddfod.co.uk neu 01978 862000.