Y canwr byd enwog Gregory Porter yn canmol Eisteddfod Ryngwladol yn ystod noson o ganu jazz a soul.
Bu’r canwr jazz, blues a soul Gregrory Poter yn canu clodydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystod ei berfformiad gwefreiddiol yno ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf. Fe ddiolchodd i’r Eisteddfod am ei hymroddiad i ddod a phobl at ei gilydd yn ysbryd cariad a heddwch ac am gynorthwyo parhad cerddoriaeth werin.
Wrth siarad o lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, fe wnaeth Porter hefyd gysylltu negeseuon dwy o’i ganeuon enwocaf gydag ethos yr ŵyl flynyddol. “Mae ‘na deimlad da yma”, meddai.
“Mae Liquid Spirit yn sôn am ryddhau cariad, ysbryd a cherddoriaeth. Dyna beth yw’r Eisteddfod Ryngwladol”, meddai. “Yna, mae Music Genocide yn sôn am bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd; cerddoriaeth werin yn cael ei feithrin a’i ddiogelu mewn ffordd. A dyna beth ydach chi’n ei wneud, felly diolch am hynny”.
Cafodd y gynulleidfa yn Eisteddfod Llangollen wledd unigryw o jazz, soul a gospel gan Porter a’i fand ardderchog, oedd yn cynnwys Albert ‘Chip’ Crawford ar y piano, Jahmal Nichols ar y bâs, Emanuel Harrold ar y drymiau, Tiuon Pennicott ar y sacsoffon, Chris Sturr ar y trymped ag Ondre J Pivec ar yr organ Hammond B3.
Yn addfwyn, dymunol a chwbl gyffyrddus ar y llwyfan, fe wnaeth Poter ennyn cynhesrwydd y gynulleidfa gan smalio nad oedd yn gwybod sut i ynganu ‘Llangollen’.
Dywedodd, “Mae’n hyfryd bod yn y lle prydferth yma, a chyn diwedd y noson mi fyddai’n gwybod sut i ynganu ei enw.
Ond cyn diwedd y noson, roedd yn taflu’r enw safle i ganol geiriau ei ganeuon heb ddim trafferth.
“Mae ‘na deimlad da yma”, meddai cyn paratoi i ganu. “Mae ysbryd cariad, ysbryd cerddoriaeth, ysbryd heddwch yn ysu i gael eu gadael yn rhydd.”
Yn seiliedig ar ei allu i fyrfyfyrio, roedd y set yn cynnwys ffefrynnau fel Musical Genocide, On the Way to Harlem a fersiwn arbennig o Take Me to the Alley, cân gafodd ei hysbrydol gan y diweddar Ruth – mam Gregory – oedd arfer mynd ag o i’r strydoedd i chwilio am bobol mewn angen.
Trwy gydol y noson, fe wnaeth Porter gyfeirio at bresenoldeb ei fam yn ei gerddoriaeth, yn enwedig yn ystod ei fersiwn syml o gân Nat King Cole, I Love You (for Sentimental Reasons), a berfformiwyd gyda Porter yn eistedd a Albert ‘Chip’ Crawford wrth y piano.
Esboniodd Porter: “Pan mae Nat King Cole yn canu, mae fy mam yn dod ata i drwy’r gerddoriaeth.”
Roedd y set hefyd yn cynnwys cyfres o amrywiadau unigryw o glasuron fel Papa Was A Rolling Stone a Nature Boy wrth i Porter ddal sylw’r gynulleidfa yn llwyr. Gan fynd a nhw ar siwrne emosiynol, fe ysgogodd y canwr a’i fand i’r gynulleidfa godi ar ei thraed, gan glapio a dawnsio yn ystod yr encore, a rhoi cyfle unigol i bob cerddor ar y llwyfan arddangos y sgiliau anhygoel a fu’n cefnogi’r perfformiad pwerus gan Porter.
Wrth siarad ar ôl y perfformiad, fe rannodd Porter ei deimladau am Langollen a’r Eisteddfod Ryngwladol: “Mae fy ymweliad cyntaf i ogledd Cymru wedi bod yn wych. Dw i yn barod wedi dweud fy mod am roi’r ardal ar restr o lefydd faswn i’n hoffi dychwelyd iddyn nhw. Wnes i weld tamaid o orymdaith tref Llangollen wrth i mi deithio yma ac roedd o’n llawn lliw a bwrlwm.”
Gan unwaith eto ganmol yr ŵyl, a grëwyd er mwyn lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd yn 1947, am ddefnyddio cerddoriaeth fel platfform i uno pobl o bob diwylliant a chefndir, fe siaradodd Porter am bŵer cerddoriaeth: “Dw i wastad yn dod yn ôl i brofiadau personol lle gwnes i ddefnyddio cerddoriaeth i deimlo’n well, neu i ymlacio. Roedd fy mam yn arfer dweud fy mod i’n canu cyn mynd i gysgu pan oeddwn i’n ifanc. Mae ‘na gyfrifoldeb ar gerddorion i ddal y pŵer hwnnw sydd gan gerddoriaeth.”
Trefn y noson
Holding On
On the Way to Harlem
Take me to the Alley
Liquid Spirit
Hey Laura
Papa was a Rolling Stone
Musical Genocide
Nature Boy
Don’t Lose Your Steam
Consequence of Love
In Fashion
Don’t be a Fool
I Love You (For Sentimental Reasons)
No Love Dying
1960 What?
Free
Thankyoufalettinmebemiceself
Come Together
I archebu tocynnau ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, neu am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Llangollen.net