Cyhoeddi Noddwr Llanfest Wrth i Docynnau Fynd Ar Werth i’r Cyhoedd

Mae cwmni adeiladu o Wrecsam, Knights Construction Group, wedi rhoi ei gefnogaeth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen trwy noddi’r ŵyl boblogaidd Llanfest, a gynhelir ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf 2018.

Daw’r cyhoeddiad wrth i docynnau ar gyfer y noson fawreddog gyda’r Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader fynd ar werth i’r cyhoedd ar ddydd Iau 22ain Mawrth 2018.

Cafodd y penderfyniad i noddi’r ŵyl ei arwain gan Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Matt Jones, a anwyd ac a fagwyd yn Llangollen ac a oedd yn arfer mynychu’r ŵyl pan yn ifanc.

“Rwy’n cofio cael fy amgylchynu gan liw a chyffro’r ŵyl wrth i mi werthu rhaglenni ar y maes fel bachgen o Ysgol Dinas Brân,” meddai Matt. “Rwyf hefyd wedi mynychu Llanfest bob blwyddyn ers 2011.

“Mae’n wych sut mae’r digwyddiad ddiwedd wythnos yma wedi datblygu i fod yn ŵyl sy’n sefyll ar ei phen ei hun bellach, gan ddenu artistiaid o galibr uchel iawn a chynulleidfa gyfoes i’r dref bob blwyddyn.”

Mae Knights Construction Group yn berchen ac yn datblygu sawl safle yn Llangollen a’r cyffiniau gan gynnwys yr adeilad Gradd II Neuadd Dinbren a Neuadd Tyn Dwr – gafodd ei lansio fel safle cynnal priodasau yn 2016.

Ychwanegodd Matt: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn rhan o galon y gymuned leol yn Llangollen. Fel cwmni sy’n datblygu safleoedd yn yr ardal, rydym yn awyddus iawn i gefnogi mentrau a digwyddiadau sy’n codi proffil y dref ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol ac rydym yn rhagweld cychwyn perthynas hir dymor gyda’r Eisteddfod.

“Mae rhaglen Llanfest eleni yn andros o safonol ac rydym yn edrych ymlaen at ddiweddglo egnïol i Eisteddfod Llangollen 2018.

Y band indi pop eiconig Kaiser Chiefs fydd yn arwain dathliadau Llanfest 2018, sef dathliad olaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y band yng Nghymru ers bron i ddwy flynedd ac un o’r cyfleoedd cyntaf i gefnogwyr yn y rhanbarth eu gweld yn fyw yn 2018.

Yn ymuno â’r pumawd o Leeds – a brofodd lwyddiant ysgubol gyda chlasuron fel Ruby, Oh My God ac I Predict a Riot o’r albwm Employment – mae’r band pop-roc The Hoosiers a Toploader, un o fandiau fwyaf disglair y nawdegau.

Mae Llanfest yn ddiweddglo egnïol i’r Eisteddfod Ryngwladol, sydd eisoes yn adnabyddus am ei cherddoriaeth gorawl, cyngherddau clasurol ac operatig yn ogystal â pherfformiadau jazz, gwerin, rhythm a blues. Fel un o wyliau mwyaf ysbrydoledig ag amlddiwylliannol y byd, fydd eleni’n rhedeg o 3ydd – 8fed Gorffennaf 2018, mae disgwyl y bydd yn croesawu dros 4,000 o berfformwyr a chystadleuwyr a hyd at 50,000 o ymwelwyr dros yr wythnos.

Lansiwyd Llanfest yn 2011 er mwyn cyflwyno’r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o’r wlad a’u denu i Langollen. Mae’r cyhoeddiad am ymddangosiad y Kaiser Chiefs 2018 yn dilyn gig wefreiddiol y band Cymreig Manic Street Preachers y llynedd, wnaeth godi to’r pafiliwn rhyngwladol. Ar gyfer y digwyddiad, fe fydd seti cefn y pafiliwn yn cael eu symud oddi yno er mwyn cynyddu’r niferoedd i fwy na 5,200 a gwneud lle i un o gyngherddau mwyaf erioed yr ŵyl.

Disgwylir i’r Kaiser Chiefs, wnaeth gyrraedd rhif un yn y siartiau Prydeinig gyda dau albwm gwahanol, gyflwyno diweddglo tanllyd i Llanfest wrth iddyn nhw berfformio clasuron indi fel Every Day I Love You Less and Less a The Angry Mob. Fe fydden nhw hefyd yn rhoi blas i’r gynulleidfa o ganeuon o’u halbwm diweddaraf, Stay Together, a gynhyrchwyd gan Brian Higgins ac a fu eu pumed albwm i gyrraedd y pump uchaf yn y siartiau.

Yn ymuno ȃ nhw mae The Hoosiers, fydd yn dychwelyd i’r llwyfan ddegawd a mwy ar ôl llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, The Trick to Life, oedd yn cynnwys ffefrynnau fel Worried About Ray and Goodbye Mr. A. Bydd Toploader, sydd fwyaf adnabyddus am eu fersiwn o Dancing In the Moonlight yn y flwyddyn 2000, yn perfformio caneuon o’u halbwm diweddaraf o 2017 Seeing Stars.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Hoffem ddiolch i Knights Construction Group am gefnogi Llanfest, gŵyl sy’n tyfu mewn maint a phoblogrwydd bob blwyddyn.

“Rydym yn edrych ymlaen at ŵyl lwyddiannus ac at weithio gyda Matt a’i dîm, sydd wrthi’n barod yn datblygu safleoedd hyfryd o amgylch Llangollen er mwyn codi proffil rhyngwladol y dref hyd yn oed ymhellach.”

Crëwyd yr Eisteddfod Ryngwladol er mwyn lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd ac uno cymunedau rhyngwladol trwy gerddoriaeth a dawns, yn ysbryd cyfeillgarwch a

heddwch rhyngwladol. Fe fydd y Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader yn ymddangos yn Llanfest 2018 yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sul 8 fed Gorffennaf. Bydd perfformiadau byw gan ystod o artistiaid ar y llwyfannau allanol yn cychwyn am 2yh a bydd y bandiau cefnogol yn cychwyn chwarae yn y pafiliwn am 7yh, cyn i’r Kaiser Chiefs gamu ar y llwyfan. Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocynnau cliciwch yma neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.