Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi agor ceisiadau grŵp ar gyfer ei gŵyl unigryw am ei 78ain flwyddyn yn 2025, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Sul 13 Gorffennaf. Gall corau a grwpiau dawns o bob rhan o’r byd wneud cais i gystadlu yn y dathliad byd-enwog o gerddoriaeth a dawns.
Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Llangollen, “Rydym yn falch iawn o gael lansio ein maes llafur ar gyfer 2025, wrth i ni baratoi i groesawu cystadleuwyr o gartref a thramor i Ogledd Ddwyrain Cymru yr haf nesaf. Rydym yn adeiladu ar ein gŵyl uchelgeisiol yn 2024, ac yn disgwyl safon uchel iawn ar draws pob un o’n cystadlaethau.”
Yn 2024, daeth dros 3,000 o gystadleuwyr i Langollen o 30 o wledydd gwahanol. Mae’r ŵyl yn gobeithio cyrraedd y brig yn 2025, wrth i wahoddiadau lanio gyda’r corau amatur a’r grwpiau dawns gorau o bedwar ban byd. Yn 2024, enillodd Côr Glanaethwy o Fangor Dlws Pavarotti, ynghyd â theitl Côr y Byd. Enillwyd Côr Ifanc y Byd gan Gôr Plant Piedmont East Bay o UDA, gyda’r Brif Gystadleuaeth Ddawns yn cael ei hennill gan Prolisok Ukrainian Dance Ensemble.
Enillydd enwocaf y cystadlaethau yn Llangollen oedd Luciano Pavarotti yn 1955, pan oedd yn aelod o’r Corale Rossini, côr meibion o Modena, gan gipio’r wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Ryngwladol. Dywedodd yn ddiweddarach mai dyma brofiad pwysicaf ei fywyd, a’i fod wedi ei ysbrydoli i ddod yn ganwr proffesiynol. Ers lansio’r ŵyl yn 1947, mae degau o filoedd o bobl o bob rhan o’r byd wedi cystadlu yng nghystadlaethau unigryw’r ŵyl.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi’i lleoli yn nhref hyfryd Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae mwyafrif y cystadlaethau yn cael eu cynnal yn eu Pafiliwn godidog gyda 4,000 o seddi.
Mae ceisiadau grŵp bellach ar agor gyda manylion llawn y cystadlaethau yn cael eu rhyddhau ar https://eisteddfodcompetitions.co.uk/ Mae ceisiadau ar gyfer y cystadlaethau unawd yn agor ar 1 Rhagfyr 2024.