Mae Gorymdaith y Cenhedloedd Eisteddfod Llangollen Gorffennaf 9fed 2025

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi y bydd eu ‘Gorymdaith y Cenhedloedd’ enwog yn cael ei chynnal yn y dref ddydd Mercher Gorffennaf 9fed 2025 am 4.30yp. Gall ymwelwyr ddisgwyl sioe liwgar, gan y bydd grwpiau ledled y byd yn cymryd rhan, gyda dwsinau o  grwpiau o Gymru a gweddill y DU.
Cystadleuwyr sy’n bwriadu dod i Langollen y flwyddyn nesaf yn cynnwys corau, grwpiau dawns, ensembles ac unawdwyr o bedwar ban byd.  Mae hyn yn cynnwys perfformwyr o’r Ariannin, Burundi, Canada, Tsieina, Denmarc, Ffrainc, Ghana, India, Indonesia, Ynys Manaw, Japan, Malaysia, Moroco, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon, Philippines, Portiwgal, Gweriniaeth y Congo, Trinidad a Tobago, UDA, a Zimbabwe.
Bydd yr orymdaith, un o’r uchelfannau’r Eisteddfod yn cael ei dilyn gan barti enfawr ar faes yr Eisteddfod, lle gall ymwelwyr fynd ar y tir ‘am bunt’!  Arweinir yr orymdaith gan Fand Arian Llangollen a Chrïwr Tref Llangollen, Austin “Chem” Cheminais.  Yn newydd yn yr orymdaith y flwyddyn nesaf bydd ‘Rhythmau Cymunedol a Gwreiddiau Cymru’, a fydd yn dod â 6 grŵp yn cynrychioli cymunedau amrywiol o bob rhan o’r wlad i berfformio yn Llangollen.
Dywedodd John Gambles, Cadeirydd yr Eisteddfod, “Fel arfer, roedd gorymdaith y llynedd yn olygfa a lliw anhygoel. Daeth dros 8,000 o bobl allan i groesawu ein cystadleuwyr rhyngwladol.  Mae gennym ni gystadleuwyr rhyngwladol anhygoel o bob cwr o’r byd eisoes wedi’u cadarnhau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ein Gorymdaith y Cenhedloedd yw un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd, ac fe’i dilynir gan ddathliad enfawr ar ein maes, fel croeso’r byd i Gymru unwaith eto.”
Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, fydd yn goruchwylio’r digwyddiad. Dywedodd  “Cynyddodd proffil ein gŵyl yn sylweddol eleni, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod 2025 hyd yn oed yn fwy. Mae ein partneriaeth â Cuffe a Taylor yn parhau i’n galluogi i ddod ag artistiaid gwirioneddol ryfeddol i Langollen, e.e.. James, Olly Murs, The Script, Texas ac UB40 sy’n cynnwys Ali Campbell, pob un ohonynt eisoes wedi cyhoeddi sioeau yma’r haf nesaf fel rhan o ein cyfres  “ Pafiliwn Llangollen Byw”. Fodd bynnag, mae’r Eisteddfod Ryngwladol ei hun yn parhau i fod yn rhan ganolog o bopeth a wnawn yma, ac rydym yn falch iawn o groesawu cymaint o gystadleuwyr rhyngwladol ac ymwelwyr yr haf nesaf. Mae bob amser yn wych gweld Llangollen a’r gymuned ehangach yn dod allan i gefnogi ein Heisteddfod.”