Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn falch o gyhoeddi ei bod wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol o dan gynllun y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Mae’r gydnabyddiaeth uchel ei pharch hon yn adlewyrchu ymrwymiad hirhoedlog Eisteddfod Llangollen i hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel colofn ganolog o’i gŵyl ddiwylliannol ryngwladol enwog.
Mae’r Eisteddfod yn digwydd rhwng 8-13 Gorffennaf ac yn cynnwys artistiaid anhygoel fel Syr Bryn Terfel, Syr Karl Jenkins ac Il Divo yn ogystal â digwyddiad arbennig yn y Gymraeg ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025. Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn cynnal sioe arbennig yn gynnar gyda’r nos ar Lwyfan y Glôb —“Rhys Mwyn yn Cyflwyno”, dan arweiniad Rhys Mwyn BBC Radio Cymru ac yn cynnwys tri artist Cymraeg nodedig: Pedair, Mared, a Buddug – cyn y cyngerdd gyda’r nos gyda KT Tunstall.
Mynegodd Dr Rhys Davies,Ymddiriedolwr yr Eisteddfod ac arweinydd ei Grŵp Gweithredol y Gymraeg, ei falchder o dderbyn y gydnabyddiaeth, “Rydym wrth ein bodd yn derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Iaith Gymraeg . Mae’n garreg filltir bwysig i’n sefydliad ac yn gymeradwyaeth gref o’n hymrwymiad i iaith Cymru. Hoffwn ddiolch o galon i’r Comisiynydd a’i swyddfa am eu harweiniad a’u cefnogaeth drwy gydol y broses hon. Yn benodol, hoffwn dalu teyrnged i Jane Edwards, sydd wedi gweithio’n agos gyda ni dros y 18 mis diwethaf ac sydd wedi bod yn allweddol i’n helpu i gyflawni hyn.”
Mae’r gydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg yn ddilys am dair blynedd ac yn arwydd i’r cyhoedd bod gwasanaethau Cymraeg ar gael ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’n gyfle i drawsnewid ymgysylltiad â’r cyhoedd drwy ddangos pa mor falch yw’r Eisteddfod Llangollen o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg mewn ffordd ystyrlon, fesuradwy ac uchelgeisiol. Mae’r Eisteddfod yn annog pob gwirfoddolwr i ddefnyddio’r Gymraeg maen nhw’n ei gwybod, waeth pa mor ychydig, a “rhoi Croeso” wrth groesawu ymwelwyr.
.
Gyda dros 4,000 o gystadleuwyr o ledled y byd yn paratoi i ddod i Langollen mewn ychydig wythnosau ar gyfer yr Eisteddfod yn 2025, mae’r trefnwyr yn awyddus i arddangos diwylliant a iaith Cymru ar y llwyfan byd-eang. Rydym yn annog ein gwirfoddolwyr yn weithredol i ddilyn cyrsiau mewn Cymraeg sylfaenol, ac rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau o’r un anian i hyrwyddo’r iaith Gymraeg—gan gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ychwanegodd Dr Davies: “Mae’r Eisteddfod bob amser wedi dathlu’r gorau o ddiwylliant rhyngwladol, ond rydym yr un mor angerddol am sicrhau bod iaith Cymru yn flaenllaw ac yn amlwg . Mae croesawu miloedd o berfformwyr ac ymwelwyr i Langollen yn rhoi’r cyfle perffaith inni wneud hynny – ac rydym yn falch o fod yn hyrwyddo’r iaith mewn ffordd mor gadarnhaol a bywiog.”
Canmolodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ddull yr Eisteddfod,
“Mae gan yr Eisteddfipod Ryngwladol Llangollen rôl bwysig i’w chwarae ym mywyd diwylliannol Cymru ac mae’n caniatáu’r iaith Gymraeg gael ei gweld ar lwyfan rhyngwladol. Mae’r Cynllun Datblygu y mae’r eisteddfod wedi’i gyflwyno yn uchelgeisiol ond yn ymarferol ac yn fesuradwy.
“Mae dyfarnu’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth o ymroddiad yr Eisteddfod i ymgorffori’r iaith Gymraeg ar draws ei gwasanaethau a’i chyfathrebu. Wrth eu llongyfarch ar eu cyflawniad, hoffwn hefyd ddymuno’n dda iddynt gydag Eisteddfod eleni ac am flynyddoedd lawer i ddod.”








