Mae’r Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn lansio cystadlaethau unawd ar gyfer 2025

Mae’r Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi agor y broses ymgeisio ar gyfer unawdwyr ac offerynwyr ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 8fed a dydd Sul 13eg Gorffennaf 2025. Bydd 7 gystadlaeth  unawd, 18 gystadlaeth grŵp a 4 ffordd anghystadleuol i gymryd rhan, gyda gwahoddiad i unawdwyr a cherddorion gorau’r byd.

Eleni, mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno fersiynau ieuenctid o’i chystadlaethau Llais y Dyfodol a Llais y Theatr Gerddorol, er mwyn annog cantorion iau i gymryd rhan. Mae hyn yn dilyn adborth aruthrol gan gynulleidfaoedd a chystadleuwyr yn 2024.

Mae cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol yr Eisteddfod bob amser yn un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod sydd wedi bodoli ers 1947 i hybu heddwch trwy gerddoriaeth a dawns. Enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine  2024 oedd Shimona Rose, soprano o Singapôr, gyda’r gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Barc Pendine, sefydliad gofal sy’n cefnogi nifer o fentrau diwylliannol yn lleol. Enillwyd cystadleuaeth Llais y Theatr Gerddorol yn 2024 gan Shea Ferron, aelod o’r côr lleol enwog Johns’ Boys (cyn-enillwyr cystadleuaeth Côr y Byd yr Eisteddfod).

Agorodd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ei cheisiadau grŵp fis diwethaf. Mae ceisiadau eisoes wedi dod o gyn belled i ffwrdd ag UDA, Zimbabwe, Philippines, Denmarc, Portiwgal a Chanada, yn ogystal â grwpiau dawns o Furundi, Ghana, India, Indonesia, Moroco a Gweriniaeth y Congo, ac ensembles o Awstralia a Ghana.

Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, “Bob blwyddyn mae ein Heisteddfod yn denu rhai o gantorion, dawnswyr, cerddorion a chorau mwyaf talentog y byd. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb o bob cornel o’r byd i ein cystadlaethau grŵp eleni, ac rydym bellach yn falch o fod yn agor ceisiadau ar gyfer ein cystadlaethau unawd.

“Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cynulleidfaoedd, rydym wedi lansio cystadlaethau newydd cyffrous i bobl ifanc. Rydym am ddod â’r dalent ifanc orau yn y byd i Langollen ac mae ein safonau’n parhau i fod yn anhygoel o uchel. Edrychwn ymlaen at groesawu ein holl gystadleuwyr fis Gorffennaf nesaf,” meddai. Fel mae Gogledd-ddwyrain Cymru ddod yn gyrchfan fywiog unwaith eto ar gyfer cerddoriaeth a dawns.”