Ysgol iaith Llangollen yn gwobrwyo ysgoloriaeth i gystadleuwyr yr Eisteddfod

BYDD un cystadleuydd lwcus o dramor yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni’n manteisio ar gwrs Saesneg gyda’r holl gostau wedi’u talu diolch i ysgol iaith newydd ei ail-lansio’r dref.

Wedi masnachu’n llwyddiannus dan yr enw ECTARC o’i safle yn Parade Street ers nifer o flynyddoedd, mae’r ysgol bellach wedi’i hail-frandio fel The Mulberry School of English.

Ac yn ei agoriad swyddogol i ffanffer, rhoddodd y cyfarwyddwr gweithredol, Vincent Ianucci, fanylion Gwobr Mulberry a lansiwyd yn y 70ain Eisteddfod eleni.

Dywedodd: “Bob blwyddyn, mae’r Eisteddfod yn denu sawl cystadleuydd rhyngwladol ac eleni’n unig, mae rhyw 4,000 yn cymryd rhan yn yr ŵyl.

“Am y tro cyntaf, mae’r wobr newydd wedi’i chynnig i’r holl berfformwyr er mwyn dathlu carreg filltir yr Eisteddfod eleni.

“Er mwyn cael cyfle i ennill, y cyfan yr oedd rhaid ei wneud oedd dweud beth wnaethon nhw ei fwynhau fwyaf am eu harhosiad yn Llangollen ac, ar ôl beirniadu, bydd manylion yr enillwyr yn cael eu postio ar ein tudalen Mulberry ar Facebook erbyn 31 Awst.

Ysgoloriaeth gwerth £1,000 yw’r wobr gyntaf sy’n cynnwys gwersi am bythefnos, llety a chludiant o’r maes awyr ac yn ôl iddo. Y cyfan y mae’n rhaid iddynt ei wneud yw talu am eu tocyn hedfan eu hunain.

“Rhoddir ail a thrydedd wobr ar ffurf mynediad blwyddyn o hyd i’n rhaglen ddysgu ar-lein, sy’n cynnwys sesiynau tiwtorial gydag un o’n hathrawon trwy Skype.

“Mae’n bleser gennyf ddweud y bydd y wobr yn cael ei chynnig bob blwyddyn i gystadleuwyr yr Eisteddfod.”

Ychwanegodd: “Roeddem yn dathlu ail-lansiad ein sefydliad fel ysgol iaith ryngwladol gyflawn yn y seremoni yn unol â hanes Llangollen o ryngwladoldeb a fagwyd gan yr Eisteddfod.

“Heb os, mae’n wir mai dyma’r dref lle mae Cymru’n croesawu’r byd.”

FU5C1842 (2)

Yn ystod yr wythnos, mae TMSE wedi cynnal nifer o berfformiadau arbennig gan gystadleuwyr yr Eisteddfod, gan gynnwys y Musica Oeconnomica Pragensis o’r Weriniaeth Tsiec a Chôr Pangudi Luhur o Indonesia. Yn ogystal, noddodd TMSE gorymdaith draddodiadol y cystadleuwyr o faes yr Eisteddfod i ganol Llangollen ar brynhawn dydd Gwener.

Dywedodd Nick Jenkins, Is-gadeirydd yr Eisteddfod oedd ymhlith y gwesteion arbennig iawn yn ail-lansiad yr ysgol iaith: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi gweithio’n agos gyda’r Mulberry School of English pan oedd yn adnabyddus fel ECTARC a mawr groesawn eu cefnogaeth barhaus mewn perthynas â’r wobr newydd i gystadleuwyr a’r nawdd i’n parêd.

“Rwy’n gobeithio y gall y berthynas wych sydd rhyngom barhau am flynyddoedd lawer.”