Adref/Home with Horizons (BBC/CCC), Rachel K Collier, Magugu a Lily Beau

Trac dawns newydd a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Llangollen gan y cynhyrchydd a’r perfformiwr electronig newydd Rachel K Collier, y rapiwr avant-garde Magugu o Nigeria a’r gantores-gyfansoddwraig ac actores ifanc o Gymru, Lily Beau. Bwriad y trac yw ysbrydoli cymuned gerddoriaeth a dawns ryngwladol yr Eisteddfod a’r cyhoedd yn ehangach i ymateb â’u symudiadau eu hunain ar gyfryngau cymdeithasol. Dyma hefyd y cyfuniad cyntaf erioed o’r ieithoedd Saesneg, Cymraeg a Pidgin Rap Nigeria!