Enillydd Llangollen i gael gwahoddiad i Arfordir Aur Awstralia

Taith wych 10,000 milltir i un o wyliau diwylliannol mwyaf y byd yw’r wobr i un enillydd lwcus 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf yma.

Bydd enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd ym mis Gorffennaf hefyd yn cael taith rhad ac am ddim i ganu yn nigwyddiad Musicale Eisteddfod Arfordir Aur Awstralia ym mis Hydref.

Mae’r gwahoddiad yn dilyn ymweliad ag Eisteddfod y llynedd gan gynrychiolwyr yr Eisteddfod yr Arfordir Aur, sydd wedi cael ei chynnal yn y ddinas ger traeth trofannol anhygoel Queensland am y 33 mlynedd diwethaf.

Mae’r Musicale yn benllanw saith wythnos o gystadlu gyda thros 70,000 o gantorion a dawnswyr yn cymryd rhan, y rhan fwyaf ohonynt o dan 20 oed, ac mae’n cynnwys 350 o fandiau a cherddorfeydd, 175 o gorau, bron i 1500 o grwpiau dawns a thros 3,000 o ddawnswyr unigol.

Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol yr Eisteddfod Arfordir Aur yn Llangollen.

Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol yr Eisteddfod Arfordir Aur yn Llangollen.

Dywedodd Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod yr Arfordir Aur: “Mi wnaethon ni ymweld â Llangollen ym mis Gorffennaf, ac roeddem wrth ein boddau. Mae’n hollol wahanol i’n hachlysur ni er ein bod yn rhannu’r un delfrydau.

“Rydym yn awyddus iawn i greu cysylltiadau rhyngwladol. Dyna fu ein nod ac rydym wedi gwneud hynny yn llwyddiannus iawn.

“Mae gan Langollen gyngherddau gyda’r nos ac mi wnaethon ni fwynhau y cyfeillgarwch, y cwmni a’r lleoliad yn fawr ac rydym yn bendant yn credu ei fod yn ddigwyddiad gwych a’n gobaith ni gyda’r wobr hon yw ein bod wedi rhoi hwb ychwanegol iddo.

“Roeddem yn hapus iawn gyda’r hyn a welsom ac mi wnaethon ni ddod yn ôl gyda rhai syniadau ac wedi siarad gyda’r bobl yn Llangollen rydym am gynnig y wobr hon i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd.”

Bydd enillydd digwyddiad eleni, sy’n agored i gantorion o dan 28 oed ar ddiwrnod y gystadleuaeth, ac sydd hefyd yn cynnig gwobr o Medal Rhyngwladol a £1500, hefyd yn derbyn bonws gwych.

Bydd y buddugwr yn cael ei hedfan allan i Queensland ar gyfer Musicale yr Hydref, i ganu mewn cyngerdd fydd yn cynnwys 20 o enillwyr o Eisteddfod yr Arfordir Aur ac ychwanegodd Judith Ferber: “Roeddem yn meddwl ei fod yn syniad rhagorol.

“Roeddem eisiau cysylltiad rhyngwladol ac oherwydd mai person ifanc fydd enillydd y wobr, rhywun yn ôl pob tebyg yn eu 20au, bydd yn gyfle arbennig iawn.

“Byddwn yn talu am y teithiau awyr ac yn darparu llety iddyn nhw a chydymaith os ydynt am ddod ag un gyda nhw, ac fe wnawn ni estyn croeso arbennig iddyn nhw a’u helpu hefyd os ydyn nhw am dreulio mwy o amser yn Awstralia a gweld mwy o’r wlad.

“Mis Hydref yw ein gwanwyn ni, felly mae’n amser hyfryd o’r flwyddyn a byddwn yn sicrhau y cawn nhw amser da iawn.”

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Llangollen: “Mae hwn yn gyfle gwych i enillydd y gystadleuaeth hon ym mis Gorffennaf ac fe all agor rhai drysau gyrfa go iawn.

“Mae Llangollen bob amser wedi creu cysylltiadau a chyfeillgarwch rhyngwladol ac rydym yn hynod ddiolchgar i bobl Eisteddfod yr Arfordir Aur am y cynnig gwych yma ac rydym yn siŵr y bydd hon yn berthynas a fydd yn ffynnu mewn blynyddoedd i ddod.

“Yn bendant, dylai sicrhau bod yr hyn sydd wedi dod yn ddigwyddiad poblogaidd a chystadleuol iawn ers ei gyflwyno ddwy flynedd yn ôl yn denu cantorion o hyd yn oed ymhellach i ffwrdd.

“Rydym bob amser wedi bod yn enwog am ansawdd ein cystadlaethau corawl a chyda chyflwyno’r categori hwn ochr yn ochr â Llais Rhyngwladol y Dyfodol a’r Cerddor Ifanc Rhyngwladol mae gennym arlwy apelgar iawn o gystadlaethau unigol nodedig.”

Bydd Eisteddfod eleni yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, pryd y bydd rhagbrofion cystadleuaeth Llais Theatr Gerdd yn cael eu cynnal gyda’r rownd derfynol yn digwydd ar y diwrnod canlynol ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r holl gystadlaethau unigol yn Llangollen 2016 yw dydd Gwener 4 Mawrth a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu cyn 25 Mawrth.

Ar y nos Fawrth bydd y seren enwog Katherine Jenkins yn rhoi cychwyn cofiadwy i’r rhaglen o gyngherddau wrth iddi ganu Carmen gan Bizet, dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed.

Lleisiau’r Byd fydd ar y dydd Iau gan gynnwys coroni Côr Plant y Byd, a bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn lle amlwg i grwpiau dawns gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i Gorau’r Byd a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.