Bob blwyddyn mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn denu miloedd o bobl i Ogledd Cymru i un o ddigwyddiadau enwocaf a mwyaf syfrdanol Prydain.
Gyda’i hawyrgylch hamddenol a’i chymysgedd unigryw o gystadlaethau cerddoriaeth a dawns rhyngwladol a chyngherddau gorau’r byd dros saith noson, mae’n lle ysbrydoledig a chofiadwy i gymysgu busnes gyda phleser.
Mae’r Pafiliwn a’r maes yn cynnig dewis eang o leoliadau preifat, terasau ac orielau i chi a’ch gwesteion arbennig. Cewch diddanu cleientiaid, cyflenwyr neu bobl neilltuol eraill gydag adnoddau arlwyo o’r radd flaenaf a digonedd o dewisiadau lletygarwch busnes:
- Siampên a chanapes wrth gyrraedd
- Bwffe a diodydd cyn y cyngerdd
- Tocynnau’r diwrnod a gyda’r nos am ddim i chi a’ch gwesteion
Rhowch brofiad i’w gofio i’ch gwesteion a manteisiwch ar ein pecynnau gwesty llety / bwyd a diod gyda darparwyr llety lleol dethol.
Rydym wedi helpu llawer o fusnesau i greu argraff wych ar eu gwesteion arbennig yma yn Eisteddfod Llangollen. Dywedwch wrthym beth yr hoffech a gadewch i ni eich helpu i greu eich achlysur busnes cofiadwy a llwyddiannus.
E-bostiwch commercial@llangollen.net