Fel digwyddiad Rhyngwladol, mae’n anochel y bydd ein gweithgaredd yn cael effaith barhaus ar gymdeithas a’n hamgylchedd. Trwy wella ansawdd ac effeithlonrwydd y ffordd yr ydym yn gweithredu heddiw, gallwn fod yn rym dros newid cadarnhaol yn y byd yr ydym yn ei adael ar ôl i’r genhedlaeth nesaf.
Ein hamcan: ymgorffori cyfrifoldeb ym mhopeth a wnawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ers 1947, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn ymrwymo mwy a mwy o ymdrech ac asedau tuag at gefnogaeth leol a chymdeithasol i’r cymunedau. O dyfu arferion cynaliadwy i sicrhau grantiau, mae hyn wedi cynnwys y gweithgareddau canlynol:
- Carchar EM Berwyn: Gweithdai ar y safle yn dysgu am draddodiad yr Eisteddfod a hanes Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gan annog y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sawl cystadleuaeth fel rhan o Eisteddfod fach. Uchafbwynt hyn oedd perfformiad gan ddawnswyr Rhyngwladol o India, a ymwelodd â’r carchar yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Paratôdd y cyfranogwyr bryd Indiaidd blasus i’w rannu gyda’r dawnswyr ar ôl y perfformiad.
- Prosiect Cynhwysiant: Dyluniwyd y digwyddiad arobryn hwn i roi llwyfan i grwpiau, na fyddent fel arfer yn perfformio neu’n cystadlu yn yr Eisteddfod, arddangos eu doniau niferus. Ers ei gyflwyno gyntaf yn 2017 mae’r prosiect wedi tyfu bob blwyddyn mewn amlygrwydd a chynnwys artistig. Mae bellach wedi’i hen sefydlu fel uchafbwynt wythnos yr Eisteddfod ac mae’n gadael argraff barhaol ar y perfformwyr a’r gynulleidfa fel ei gilydd; pwysleisir cydraddoldeb, cynhwysiant, derbyn a chydnabod pwysigrwydd amrywiaeth.
- Gwobr Heddwch y Rotari: Cyflwynir Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari bob blwyddyn yn yr Eisteddfod; cynlluniwyd y wobr i gydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyfrannu at hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ymysg pobl y byd. Mae’r Eisteddfod yn falch o’i chysylltiadau â’r Rotari Rhyngwladol, fel un o’r sefydliadau dyngarol mwyaf yn y byd, y mae ei ethos a’i werthoedd yn cyd-fynd â nodau’r Eisteddfod o hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth rhwng gwahanol ddiwylliannau.
- Ariannu oddeutu £30,000 i grwpiau sy’n ymweld â Llangollen. Mae’r GRONFA BWRSARIAETH yn agored i bob cystadleuydd a chaiff ceisiadau eu barnu yn ôl angen, teilyngdod artistig a’n dymuniad i wneud yr Eisteddfod mor amrywiol a hygyrch â phosibl.
- Mae Cynllun Hygyrchedd yr Eisteddfod yn cyflenwi tocynnau am ddim i grwpiau dan anfantais, mae’r cynllun hefyd yn galluogi’r Eisteddfod i wella a hyrwyddo eu gwir lefel hygyrchedd ac yn cefnogi ymwelwyr a chystadleuwyr ag anghenion mynediad, mae hyn yn caniatáu i ymwelwyr wneud dewis gwybodus.
- Ymrwymiad ailgylchu: Yn 2011, cyflwynodd yr Eisteddfod ailgylchu i reoli gwastraff y digwyddiad. Ers hynny, mae’r digwyddiad wedi llwyddo i leihau cyfran y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi bob blwyddyn, ac yn 2015 cyflawnodd gyfradd ailgylchu yn ôl pwysau o 72.5%. Am y tair blynedd diwethaf, mae hyn wedi cael ei gynnal a’i wella (y gyfradd ailgylchu yn 2018 oedd 75.5%) gan wneud yr Eisteddfod yn un o’r prif ddigwyddiadau yng Nghymru ar gyfer diogelu’r amgylchedd.
- Y Neges Heddwch: ers 1952, mae pobl ifanc wedi cyflwyno neges o heddwch ac ewyllys da i blant y byd o’r llwyfan yn ystod Diwrnod y Plant. Mae’r neges hon yn cyrraedd 5000 o blant ysgol bob blwyddyn.
Sut all eich cwmni gynnwys Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn eu hymagwedd a’u strategaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol?
- Ymgysylltu â’n Rhaglen Allgymorth Cymunedol
- Noddi Diwylliant a’r Celfyddydau
- Gweithio gyda’n gilydd – ystyried sut y gallai eich prosiect Cymdeithasol Corfforaethol ychwanegu gwerth at lwyfannau neu faes yr Eisteddfod
- Digwyddiad neu weithgaredd codi arian
- Cyfrannu’n ariannol
Mae llawer o Noddwyr, Partneriaid a Chefnogwyr masnachol yr Eisteddfod yn ymgorffori dinasyddiaeth gorfforaethol dda yn eu busnesau ac mae’r Eisteddfod yn ymfalchïo mewn cefnogi eu gweithgareddau. Gwelir enghreifftiau gwych isod o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol:
1. Parc Pendine

Mae cyfrifoldeb cymdeithasol Parc Pendine i’r Sector Gofal wedi ymwneud ag arwain y ffordd mewn sawl maes – bod y sefydliad gofal 1af i sicrhau BS5750 (ISO bellach) ac i gael artist preswyl a chanolfan ddysgu RCN. Mae Pendine hefyd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu Fforwm Gofal Cymru, Gwobrau Gofal Cymru i gydnabod y gwaith gwych y mae llawer o Staff Gofal yn ei wneud a’r Academi Ymarferwyr Gofal i gefnogi a phroffesiynoli’r sector. Mae Parc Pendine wedi bod yn un o brif noddwyr yr Eisteddfod ers sawl blwyddyn.
Bob blwyddyn mae Parc Pendine yn dod â’u preswylwyr i Ddiwrnod y Plant ac yn gwahodd yr ysgolion i ymuno â nhw mewn gweithdai Cerdd. Mae dros 1,000 o blant yn cymryd rhan bob blwyddyn.
2. Linguassist
Gyda chefnogaeth Linguassist daeth y prosiect hwn i ben yn hwylus ar ddydd Llun y Pasg gyda throsglwyddo ysgol yn ffurfiol yn Taninahun, Sierra Leon.
https://www.youtube.com/watch?v=MoZBV-RkXdg&t=9s
3. The Cornmill, Fouzis, GHP Legal, Hadlow Edwards
Mae’r cwmnïau a enwir uchod yn cefnogi’r rhaglen Allgymorth. Mae’r gwaith Allgymorth hwn yn cynnig mwy na pherfformiadau cyhoeddus gan y cystadleuwyr Rhyngwladol, wrth iddynt hefyd ymweld a pherfformio mewn gwahanol leoliadau yn y gymuned leol gan gynnwys Llangollen, Wrecsam, Caer a Chroesoswallt.
Mae’r cyllid hwn hefyd yn cefnogi prosiectau sy’n bwydo i mewn i raglen artistig Eisteddfod gan gynnwys:
- Prosiectau Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith
Prosiectau Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith parhaus gydag Ysgol Dinas Bran ac Ectarc o Langollen ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.
- Cartrefi Gofal
Mae grwpiau rhyngwladol yn ymweld â chartrefi gofal yn yr ardal gyfagos, fel y gall y rhai na allant fynychu’r Eisteddfod gael blas ar y digwyddiad unigryw hwn o hyd. Mae’r perfformiadau hyn nid yn unig yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa’r preswylwyr ond maent hefyd yn brofiadau hyfryd i’r grwpiau sy’n cymryd rhan.
- Cyngerdd Llangollen yn Ninbych
Cyngerdd a gynhelir ar gyfer y cystadleuwyr yng Ngholeg Myddelton, Dinbych ar y cyd â Chlwb Rotari Dinbych. Cyfle i’r cystadleuwyr berfformio i’w gilydd y tu allan i amodau llym y gystadleuaeth a chyfle i gyfnewid diwylliant, cerddoriaeth a dawns!
