Manic Street Preachers i chwarae gig fwyaf erioed Llanfest

Y band byd-enwog i berfformio ar noson olaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, nos Sul 9fed Gorffennaf 2017.

Yn syth o daith lwyddiannus i nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi eu pedwerydd albym ‘Everything Must Go’, mae Manic Street Preachers wedi cyhoeddi y bydden nhw’n perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 70ain.

Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y triawd adnabyddus yn Llangollen ac ar y noson fe fydden nhw’n chwarae detholiad o ganeuon o’u casgliad eang. Hon hefyd fydd y gig fwyaf i Llanfest – sy’n ddiweddglo i ŵyl wythnos o hyd ac yn cael ei noddi gan Aldi – erioed lwyfannu, gyda seti cefn y pafiliwn yn cael eu tynnu allan er mwyn gwneud lle i dros 5,200 o bobl.

Bydd ticedi ar gyfer y sioe yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Llangollen ar werth o 9.00 y.b. ar 1af Rhagfyr 2016.

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Mae’n argoeli i fod y sioe fwyaf erioed i Llanfest lwyfannu ac rydym ni wedi’n cyffroi a dweud y lleiaf.

“Mae’r Manics yn un o’r bandiau pwysicaf i ddod o Gymru erioed. Mae ganddyn nhw gasgliad eang o ganeuon gwleidyddol, sy’n ennyn gymaint o ymateb nawr â phan eu cyhoeddwyd gyntaf, yn ogystal a gweithiau pwerus newydd.

“Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddathliad o Gymru a’r byd, felly mae cael ymuno â’r Manics – sydd wedi profi llwyddiant mawr ar raddfa ryngwladol – wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 70 oed yn anrhydedd o’r mwyaf.

“Fe fydd yn ddiweddglo bythgofiadwy i’r ŵyl yn 2017 ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar at glywed set y Manic Street Preachers ar y noson”.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd y Manic Street Preachers: “Mae hi wastad yn brofiad arbennig i berfformio yng Nghymru, yn enwedig pan ydan ni’n chwarae mewn digwyddiad am y tro cyntaf. A bydd perfformio ar 70ain mlynedd yr ŵyl hyd yn oed yn fwy arbennig”.

Dywedodd llefarydd ar ran Aldi: “Mae Aldi wrth ei fodd yn noddi Llanffest 2017, yn benodol am ei bod hi’n ben-blwydd 70ain yr ŵyl. Gyda siop newydd yn agor yn y dref yn fuan, rydym yn credu bydd 2017 yn flwyddyn wych i ni yn lleol ac rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o gysylltiadau yn yr ardal.”

Bydd y Manic Street Preachers yn ymddangos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Sul 9fed Gorffennaf, 2017. Bydd ystod o berfformiadau gan artistiaid eraill ar y llwyfannau awyr agored o 2yp ymlaen a bydd artistiaid cefnogol yn dechrau chwarae am 7yh yn y pafiliwn, cyn i’r Manic Street Preachers gamu i’r llwyfan.