Gorilas lliwgar anferth yn ymweld ag Eisteddfod Llangollen

Bydd gorilas anferth o bob lliw yn cadw llygad ar Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd y 10 gorila haearn – sydd yn 6 troedfedd o uchder ac yn pwyso yn agos i 16 stôn – yn ymddangos am y tro cyntaf wrth i’r ŵyl enwog hon o gerddoriaeth a dawns gychwyn ddydd Mawrth, Gorffennaf 7.
Cafodd y creaduriaid unigryw hyn – bob un yn cydio mewn clwstwr mawr o fananas – eu llunio yn y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig ger Croesoswallt.
Wedi Gŵyl Llangollen, bydd y gorilas yn mynd ar daith o gwmpas digwyddiadau eraill ledled Prydain.
Y tu ôl i’r syniad mae Clive Knowles, 53 oed, cadeirydd y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig, sydd yn un o noddwyr yr Eisteddfod eleni.

Y llynedd, defnyddiwyd 20,000 o lwyau metel i greu cerflun o un gorilla anferthol. Hawliodd hwn sylw mawr ar faes yr Eisteddfod ond mae Clive yn disgwyl y bydd mwy fyth o ymateb i’r arddangosfa eleni.
Dywedodd: “Cafodd y gorila llwyau ei ddylunio a’i greu yn dilyn sialens a gefais gan Uri Geller. Roeddem yn gwneud pyst lampau Fictoriannaidd ar gyfer mynedfa ei dŷ ac ar un ymweliad â’r safle fe’m heriodd i lunio gorila anferth gan ddefnyddio llwyau metel.
“Wel, bu’r ymgais yn llwyddiant, ac fe ddefnyddiwyd 20,000 o lwyau metel yn y broses. Daeth Tywysog Michael o Gaint i Groesoswallt gydag Uri Geller i ddadorchuddio’r cerflun.
“Roedd y ddau wedi eu synnu’n fawr ac yn methu credu ein bod wedi gwneud y fath beth. I fod yn deg, ’toes yna ddim byd tebyg iddo yn unman arall. Roedd y cerflun yn llwyddiant llwyr a sôn amdano ar raglenni teledu ledled y byd, o Argentina i Zimbabwe, o UDA i China.
“Ar y funud mae ar daith o gwmpas ysbytai a hosbisau Prydain. Y cam neaf oedd penderfynu gwneud grŵp o gorilas, ond y tro hwn defnyddio metelau lliwgar, a mabwysiadu’r gorila fel ein arwyddlun.
“Cafodd y gorilas newydd eu llunio o ddisgiau metel – pob disg wedi ei churo â llaw. Fi wnaeth eu cynllunio – mae gennyf gefndir mewn celf, dylunio a gwaith metel. Mae’n cymryd chwech wythnos i gwblhau un gorila ac mae pedwar gweithiwr metel yn brysur arnynt ers mis Mehefin y llynedd.”
Ychwanegodd: “Ar ôl Llangollen mi fyddant hwythau yn mynd ar daith o amgylch Prydain ac hefyd yn cymryd rhan yn y Ras Gorilas yn Llundain ym mis Medi. Digwyddiad yw hwn sydd yn codi arian tuag at ddiogelu gorilas yn y gwyllt.
“Ond, heblaw am gael eu harddangos yma yn y Ganolfan Gwaith Haearn, yn Llangollen y byddant yn cwrdd â’r cyhoedd am y tro cyntaf. Rydw i’n falch o fod yn gysylltiedig gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – mae’n ddigwyddiad mor unigryw a rhyfeddol.
“Mae’r awyrgylch yn anhygoel ac mae’r ffaith bod y digwyddiad yn hyrwyddo heddwch a harmoni yn rhyfeddol. Am ryw reswm, mae gorilas bob amser yn denu plant a dyna pam roeddwn am wneud y casgliad yn lliwgar a hwyliog.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr ymateb wrth i ymwelwyr yr Eisteddfod weld y casgliad gorilas. Maent yn wirioneddol drawiadol.”
Bydd atyniadau mawr eraill yr Eisteddfod yn cynnwys y cerddor enwog Burt Bacharach, y canwr a’r cyfansoddwr poblogaidd o Ganada, Rufus Wainwright, y tenor hudolus, Alfie Boe a’r côr feistr teledu, Gareth Malone.
Uchafbwynt arall fydd y cyngerdd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia – seren y noson hon fydd y gyn Delynores Frenhinol, Catrin Finch.
Dywedodd y cyfarwyddwr cerdd: “Eleni, mae gennym raglen wirioneddol gyffrous fydd yn gweddnewid tref hardd Llangollen unwaith eto yn gyfuniad hyfryd o gerdd a dawns.
“Eleni caiff ymwelwyr groeso hynod a bythgofiadwy, a’r gorilas lliwgar anferth fydd yn gyfrifol am hynny – yn sicr byddant yn ychwanegu at ‘wow ffactor’ yr Eisteddfod.”
Ac mae gan Clive Knowles brosiect mawr arall mewn golwg.
Meddai: “Gyda chefnogaeth y swyddfa gartref rydym ar y funud yn gweithio gyda’r cyfan o’r 43 Gwasanaeth Heddlu ym Mhrydain ac yn darparu blychau fel y gall y cyhoedd gael gwared â chyllyll ac arfau fel rhan o amnest.
“Ein bwriad wedyn yw defnyddio’r arfau i adeiladu angel 24 troedfedd o uchder fel cofadail yn erbyn trais a rhyfel.
“Rydym yn gobeithio gwahodd Prif Gwnstabliaid, Comisiynwyr Heddlu a Chomisiynwyr Trosedd, cyn droseddwyr a charcharorion, cefnogwyr y dioddefwyr ac eraill i ddod i Groesoswallt a phob un i weldio cyllell neu arf i’w lle fel rhan o’r cerflun.”
Ychwanegodd: “Rydym am i’r cerflun gynnwys 100,000 o lafnau a chyllyll a fydd, o ganlyniad i amnestïau, wedi eu tynnu oddi ar strydoedd Prydain. Rydym wedi cychwyn y gwaith ar yr angel ond mae’r dyluniad yn gyfrinach a’n gobaith yw y bydd aelod o’r teulu Brenhinol yn dod atom i’w ddadorchuddio.
“Unwaith y bydd wedi ei gwblhau, bydd yn cael ei arddangos ar y pedwerydd plinth yn Sgwâr Trafalgar – bydd hynny yn fendigedig. Y syniad yw cael pob gwasanaeth heddlu i dderbyn y syniad a chydweithio gyda ni fel y bydd gennym y metel i wneud y gwaith.
“Ein gobaith yw cael yr angel yn barod erbyn diwedd y flwyddyn neu’n gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, rwy’n hyderus y bydd ein criw gorilas anferth yn atyniad mawr yn Eisteddfod Llangollen. Fedrai ddim aros i weld yr ymateb.”