Cyfleoedd newydd ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Fis nesaf, bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ennill mwy o reolaeth dros Bafiliwn Llangollen wrth i drefniadau newydd gael eu creu ar gyfer rheoli’r safle eiconig. Bydd hyn yn arwain at agor cyfleoedd ar gyfer adloniant a gweithgareddau eraill yn y dref drwy gydol y flwyddyn.

O dan y trefniadau presennol, Hamdden Sir Ddinbych Cyf. (HSDd) sy’n gyfrifol am reoli safle’r Pafiliwn yn Llangollen, sef cartref yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol fyd-enwog. Bydd y cyfrifoldeb hwn yn trosi i’r Eisteddfod, gyda les gan Gyngor Sir Ddinbych yn amodol ar delerau cytunedig. Bydd hyn yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i’r Eisteddfod, fel y perchennog, i ddatblygu’r safle er budd Llangollen a rhanbarth gogledd-ddwyrain Cymru yn ehangach.

Meddai Cadeirydd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, John Gambles, “Hoffem ddiolch i Hamdden Sir Ddinbych Cyf. am fod yn geidwaid Pafiliwn Llangollen ac am eu cydweithrediad parod i reoli’r cyfnod newid hwn. Mae’r trefniant newydd gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cynnig cyfle gwych i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen symud tuag at ein nod o ddod yn sefydliad sy’n gweithredu gydol y flwyddyn er budd pobl leol ac ymwelwyr.”

Yr haf hwn, bydd y Pafiliwn yn croesawu amrywiaeth o berfformwyr byd-enwog gan gynnwys cyngherddau Yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen a fydd yn cynnwys perfformiadau gan Texas, Rag’n’Bone Man, UB40 gydag Ali Campbell, James, The Script, Olly Murs a The Human League.

Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen rhwng 8 a 13 Gorffennaf 2025, pan fydd 4,000 o gystadleuwyr o 35 o wledydd gwahanol yn ymweld â Llangollen. Yn ystod yr ŵyl bydd cyngherddau gan brif leisydd enwog The Who, Roger Daltrey, cyngerdd i ddathlu 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys One World dan arweiniad Syr Karl Jenkins, KT Tunstall, Il Divo, Côr y Byd gyda’r gwestai arbennig Lucie Jones a Syr Bryn Terfel a Fisherman’s Friends.

Bydd y trefniant newydd hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Eisteddfod ac yn ei galluogi i gryfhau ei phartneriaeth gyda’r hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw a digwyddiadau, Cuffe a Taylor, i ddenu mwy o berfformwyr adloniant yn y dyfodol.

Ychwanegodd John Gambles, “Ymysg cyngherddau haf y llynedd, roedd perfformiadau gan Syr Tom Jones, Manic Street Preachers a Bryan Adams ac arweiniodd y rhain at fanteision economaidd sylweddol i dref Llangollen. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ehangu er budd y rhanbarth yn ehangach. Mewn unrhyw drefniant newydd ar gyfer y safle, bydd Eisteddfod Llangollen yn anrhydeddu’r holl ddigwyddiadau sydd yn y Pafiliwn ar gyfer 2025. Rydym hefyd yn gweithio ar nifer o brosiectau cyffrous a fydd nid yn unig yn diogelu dyfodol ein pafiliwn a’n neuadd eiconig ond hefyd yn sicrhau ein bod yn gwireddu potensial cyffrous y lleoliad anhygoel hwn.”

Ni fydd y trefniadau newydd hyn yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol ond byddant yn symleiddio’r trefniadau rheoli drwy sicrhau bod llai o bartïon yn gysylltiedig â’r mater.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Mae’r tîm wedi gweithio’n agos gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau trosglwyddiad llyfn i bawb dan sylw ac rydym wrth ein bodd bod popeth wedi ei gyflawni mor esmwyth. Hoffem ddiolch i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a dymuno’r gorau iddynt ar gyfer cyfnod hynod lwyddiannus dros yr Haf eleni.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol Sir Ddinbych, “Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Eisteddfod wrth iddi fynd i’r afael â’r cyfleoedd newydd cyffrous hyn. Un o egwyddorion sylfaenol ein Strategaeth Rheoli Asedau 2024-2029 yw ystyried pwy fydd y perchennog gorau i weithredu pob ased ac adnabod unrhyw gyfle i gydweithio. Rwy’n falch o weld y dull cydweithredol o weithio rhwng tîm eiddo’r Cyngor, HSDd a’r Eisteddfod ar gyfer y safle hwn. Mae Llangollen eisoes yn un o drysorau’r sir ac yn lleoliad twristiaeth o’r radd flaenaf sy’n denu, ar gyfartaledd, dros hanner miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.

“Mae’r rhagolygon ar gyfer y dref a’r Eisteddfod yn gyffrous wrth geisio ehangu’r cyfleoedd a’r defnydd o’r Pafiliwn. Bydd hyn yn dod â manteision sylweddol i’r rhanbarth cyfan. Hoffem ddiolch i HSDd am gefnogi’r Eisteddfod a chynnal y safle hwn dros y pum mlynedd diwethaf.”