| Enw | Gwlad | Cyfanswm | Safle |
| Loughgiel Folk Dancers | Northern Ireland | 96.7 | 1af |
| Gabhru Panjab de | India | 95.3 | 2il |
| MOTHER TOUCH DANCE GROUP | Zimbabwe | 94.7 | 3ydd |
Cystadleuaeth A6 Corau Plant Iau
| Enw | Gwlad | Cyfanswm | Safle |
| Lindley Junior School Choir | England | 90 | 1af |
| Cor Ysgol Pen Barras | Cymru | 89 | 2il |
| Truro School Prep Choir | Cornwall | 88.3 | 3ydd |
| Ysgol Gerdd Ceredigion | Cymru | 87.7 | 4ydd |
| COR GLANAETHWY | Cymru | 86.7 | 5ed |
| Bax Choir, Heath Mount School | England | 85.7 | 6ed |
| Children’s Choir of Musamari Ch | Estonia | 85 | 7fed |
| Ysgol Llwyncelyn | Cymru | 84.7 | 8fed |
| Hereford Cathedral Junior School | England | 83.3 | 9fed |
Cystadleuaeth A8 Corau Câneuon Gwerin i Blant
| Enw | Gwlad | Cyfanswm | Safle |
| Cantabile Girls’ Chior | England | 89.3 | 1af |
| Piedmont Children’s Choir | USA | 88.3 | 2il |
| BAAO CHILDREN AND YOUTH CH | Philippines | 86.7 | 3ydd |
| KZN Midlands Youth Choir | South Africa | 86 | 4ydd |
| Cor Heol y March | Cymru | 84.3 | 5ed |
| Children’s Choir of Musamari Ch | Estonia | 84 | 6ed |
| Palmdale High School Chamber Sin | USA | 83.7 | 7fed |
| Cor Ysgol Pen Barras | Cymru | 83 | 8fed |
| Highcliffe Junior Choir | England | 82.3 | 9fed |
Cystadleuaeth A8 Corau Câneuon Gwerin i Blant
Enw Gwlad Cyfanswm Safle
Cantabile Girls’ Chior England 89.3 1af
Piedmont Children’s Choir USA 88.3 2il
BAAO CHILDREN AND YOUTH CH Philippines 86.7 3ydd
KZN Midlands Youth Choir South Africa 86 4ydd
Cor Heol y March Cymru 84.3 5ed
Children’s Choir of Musamari Ch Estonia 84 6ed
Palmdale High School Chamber Sin USA 83.7 7fed
Cor Ygsol Pen Barras Cymru 83 8fed
Highcliffe Junior Choir England 82.3 9fed
Lansio ap ffôn symudol i Eisteddfod Llangollen 2017
Fe fydd ymwelwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn medru derbyn gwybodaeth hanfodol am yr ŵyl trwy ap ffôn symudol newydd o’r enw ‘Llangollen’.
Wedi’i greu gan asiantaeth greadigol o Gaernarfon, Galactig, mae’r ap rhad ac am ddim yn cynnwys gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg ac ar gael i ddyfeisiadau Apple ac Android.
Fe fydd hefyd yn cynnwys fideos o’r holl gystadleuthau a gynhelir ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol, amserlen o’r prif weithgareddau ar faes yr Eisteddfod, gwybodaeth am gyngherddau a map rhyngweithiol o’r maes.
Cyhoeddi dau enillydd i Wobr Heddwch Rhyngwladol
Mae corff sy’n rhoi pwyslais ar leddfu dioddefaint a menter arall sy’n annog pobl i ildio’u harfau ill dau wedi ennill Gwobr Heddwch Rotary International.
Cafodd y corff British Ironworks o Groesoswallt a Médecins Sans Frontières eu cyd-wobrwyo yng nghyngerdd agoriadol dathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf.
Dawnsio yn y stryd: ‘Eisteddfod fechan’ yn cyrraedd Caer
Fe wnaeth dinas Caer groesawu arddangosfa fywiog o gerddoriaeth a dawns ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf, wrth i ŵyl stryd ryngwladol nodi dechrau dathliadau 70ain Eisteddfod Llangollen gyda fersiwn fechan o’r Eisteddfod.
Neges Heddwch Ysgol Y Gwernant – Lluniau
Disgyblion o Ysgol Y Gwernant, Llangollen yn ymarfer cyn eu perfformiad o’r Neges Heddwch. Fe fydd y disgyblion lleol yn perfformio’r Neges Heddwch – uchafbwynt blynyddol yn yr ŵyl – ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, fel rhan o’r Dathliad Rhyngwladol.
Fe fydd perfformiad hefyd yn cael ei gynnal yfory (4ydd Gorffennaf) yn ystod Diwrnod y Plant. Eleni mae’r neges – sydd wedi ei chyd-lynu gan gyn-weithiwr yr Eisteddfod Christine Dukes – yn adlewyrchu hanes yr Eisteddfod a’n benodol ei pherthynas gyda’r tywydd.
Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi’i enwebu am Wobr Heddwch Rhyngwladol
Corff yn cael ei enwebu am Wobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari, sy’n cydnabod mentrau heddwch Prydeinig a rhyngwladol
Mae corff a sefydlwyd i gefnogi a gwarchod ffoaduriaid yng Nghymru wedi cael ei enwebu am wobr heddwch rhyngwladol.
Yn sgil ei waith i hybu goddefgarwch a pharch tuag at ffoaduriaid, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi ei enwebu am Wobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari. Mae’r corff hefyd yn rhoi pwyslais ar rymuso ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ail-adeiladu eu bywydau yng Nghymru.
Fe fydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – enillydd y wobr gyntaf un y llynedd – ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf yn ystod Cyngerdd Agoriadol dathliadau 70ain yr ŵyl.
Prosiect Cynhwysiad yn dychwelyd er mwyn ‘Creu Tonnau’ ar gyfer 2017
Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu naw blynedd o’i Phrosiect Cynhwysiad drwy gomisiynu darn newydd i’w berfformio ac enwebiad am Wobr fawreddog Celfyddydau a Busnes Cymru.
Bydd y prosiect, sy’n hyrwyddo undod, amrywiaeth a hygyrchedd i bawb, yn dychwelyd i brif lwyfan yr ŵyl ddydd Mercher 5ed o Orffennaf gyda darn newydd, wedi’i gomisiynu’n arbennig o’r enw Creu Tonnau.
Yn cael ei berfformio gan The KIM Choir o Dreffynnon, SCOPE Flamenco Group o Gaer, WISP Dance Club o’r Wyddgrug ac Amigos y Gymuned o Wrecsam, mae Creu Tonnau yn canolbwyntio ar emosiwn rhydd y môr a sut y gallai gysylltu pobl o wahanol gefndiroedd o lan i lan. Fe’i hysgrifennwyd gan y bardd Aled Lewis Evans gyda mewnbwn gan aelodau o’r pedwar grŵp.
Gwobr enfawr yn denu mwy o gantorion rhyngwladol nag erioed
Y chwilio am ymgeiswyr i gystadleuaeth Llais y Dyfodol yn poethi ar ôl hwb fawr i’r wobr ariannol.
Fe fydd pedwar ar hugain o gantorion ifanc gorau’r byd yn heidio i ogledd Cymru i gystadlu am wobr ryngwladol newydd.
Disgwylir i’r cystadleuwyr deithio yr holl ffordd o’r Swistir, y Philippines, yr Unol Daleithiau a Tseina i fynd benben am deitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 6 Gorffennaf.
Daw nifer uchel yr ymgeiswyr o ganlyniad o hwb ariannol i’r wobr gan gorff gofal Parc Pendine, sy’n ymfalchïo yn y celfyddydau, a Sefydliad Syr Bryn Terfel.








