Bydd gorilas anferth o bob lliw yn cadw llygad ar Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd y 10 gorila haearn – sydd yn 6 troedfedd o uchder ac yn pwyso yn agos i 16 stôn – yn ymddangos am y tro cyntaf wrth i’r ŵyl enwog hon o gerddoriaeth a dawns gychwyn ddydd Mawrth, Gorffennaf 7.
Cafodd y creaduriaid unigryw hyn – bob un yn cydio mewn clwstwr mawr o fananas – eu llunio yn y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig ger Croesoswallt.
Wedi Gŵyl Llangollen, bydd y gorilas yn mynd ar daith o gwmpas digwyddiadau eraill ledled Prydain.
Y tu ôl i’r syniad mae Clive Knowles, 53 oed, cadeirydd y Ganolfan Gwaith Haearn Brydeinig, sydd yn un o noddwyr yr Eisteddfod eleni. (rhagor…)
Eisteddfod Llangollen yn fflam o obaith
Mae’r cyfansoddwr Brenhinol Paul Mealor wedi disgrifio Gŵyl Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel fflam o obaith a ffydd mewn byd llawn helynt.
Dywed yr Athro Mealor, sy’n enedigol o Lanelwy, bod yr ŵyl yn dod â phobl o bedwar ban byd at ei gilydd trwy gyfrwng iaith fydeang cerddoriaeth. Daeth yn enwog dros nos wedi iddo gyfansoddi Ubi Caritas et Amor ar gyfer priodas y Tywysog William a Catherine Middleton yn 2011 a chyfansoddi Wherever You Are, a gyrhaeddodd rhif un yn siartiau Nadolig i’r Military Wives dan arweiniad Gareth Malone.
Eleni, bydd yr Athro Mealor yn bresennol yn Eisteddfod Llangollen am yr eildro fel beirniad ac am y tro cyntaf fel is-lywydd yr ŵyl hanesyddol hon sydd yn cychwyn ddydd Mawrth, 7 Gorffennaf. (rhagor…)
Britain’s Got Talent singing sensation Jonathan is heading for Llangollen
Britain’s Got Talent singing sensation Jonathan Antoine is looking forward to following in the footsteps of another larger than life tenor when he takes to the stage at this summer’s Llangollen International Musical Eisteddfod.
The down-to-earth 20-year-old, who split from singing partner Charlotte Jaconelli last year, can’t wait to step out onto the stage where the great Luciano Pavarotti performed. He said: “Performing at Llangollen is going to be so exciting. It’s a breeding ground for creativity and to be on the same stage that someone like Pavarotti performed on is just a wonderful thought. I’m really, really looking forward to it.” (rhagor…)
Miloedd o bobl ifanc yn heidio i fwynhau cyngerdd Diwrnod y Plant
Bydd tua 4,000 o blant ysgol yn ymuno mewn diwrnod o gerddoriaeth a hwyl i godi’r llen ar Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Byddant yn teithio i’r Pafiliwn Rhyngwladol i gymryd rhan mewn cyngerdd o’r enw Bongos, Brass a Digonedd o Ddawns sy’n ganolbwynt i Ddiwrnod y Plant, y rhagarweiniad traddodiadol i’r ŵyl ddiwylliannol flynyddol sy’n cael ei llwyfannu rhwng 6 a 12 Gorffennaf. Bydd y swae gerddorol 40 munud o hyd yn cael ei llwyfannu ddwywaith, unwaith am 10.30yb ac eto am hanner dydd ar y diwrnod agoriadol, dydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Bydd y dorf o ymwelwyr ifanc wedyn yn mynd allan ar faes yr Eisteddfod i fwynhau rhaglen lawn o theatr stryd yn cynnwys clown, cerddwyr ar stiltiau a dawnsio Bollywood. (rhagor…)
Gŵyl Llangollen yn cyfrannu £1.5m i’r Economi Leol
Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cyfrannu £1.5 miliwn tuag at yr economi leol.
Dyna mae’r digwyddiad hanesyddol a blynyddol hwn yn ei olygu i ardal De Sir Ddinbych ac i dref Llangollen sydd wedi bod yn gartref i’r ŵyl ers 1947 ac a fydd yn estyn croeso i’r byd unwaith eto ym mis Gorffennaf.
Disgwylir bron 40,000 o ymwelwyr eleni eto i’r ŵyl enwog hon – lle y cychwynnodd gyrfa gerddorol rhai o sêr blaenllaw y byd opera fel Luciano Pavarotti. Mae denu cymaint o bobl o bedwar ban byd yn golygu chwistrelliad o arian fydd yn dderbyniol iawn gan fusnesau mewn cylch o 20 milltir i Langollen.
Y llynedd daeth 36,000 o bobl i’r Eisteddfod gan wario ar gyfartaledd £42 yr un bob dydd – roedd hyn yn golygu hwb rhyfeddol o £1.5 miliwn i’r economi leol. (rhagor…)
Ymwelydd ag Eisteddfod Llangollen i hedfan 6,000 er mwyn dychwelyd fel gwirfoddolwr
Arbenigwr gwin Tseinïaidd yn dychwelyd i feddwi ar hud yr ŵyl
Bydd arbenigwr gwin o Hong Kong a syrthiodd mewn cariad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn hedfan 6,000 o filltiroedd i weithio fel gwirfoddolwr yn yr ŵyl. Cafodd Bill Kong, 54 oed, ei swyno gan hud yr eisteddfod ar ei ymweliad cyntaf fel aelod o’r gynulleidfa ddwy flynedd yn ôl pan gyflawnodd uchelgais oes i brofi’r ŵyl drosto ei hun.
Roedd wrth ei fodd gymaint ag awyrgylch hudolus yr ŵyl bryd hynny ac yn 2014, nes ei fod yn bwriadu teithio nôl i Langollen ym mis Gorffennaf i ymuno â’r criw bychan o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n gwneud y digwyddiad diwylliannol eiconig hwn yn gymaint o lwyddiant bob blwyddyn.
Mae cysylltiadau Bill â Phrydain yn mynd yn ôl dros 40 o flynyddoedd pan fynychodd ysgol baratoi wrth ymyl Bewdley yn Swydd Gaerwrangon, ysgol gyhoeddus ger Uttoxeter yn Swydd Stafford. (rhagor…)
(English) Rufus will be “absolutely fabulous” in Llangollen

Côr o fri o’r America yn dewis croeso Cymreig go iawn yn Llangollen
Mae côr rhyngwladol o fri o’r America yn edrych ymlaen at gael blas go iawn o letygarwch Cymreig.
Mae Cantorion Siambr Prifysgol Azusa Pacific o Galiffornia yn mynd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf lle byddant yn aros gyda theuluoedd lleol yn hytrach nag archebu llety mewn gwestai. Mae’r côr 37 aelod ymhlith cantorion corawl gorau’r byd ac mae eu hanes yn cynnwys ennill y Gystadleuaeth Corau Rhyngwladol yn Awstria yn 2013, yn ogystal â chanu mewn llu o leoliadau eiconig, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney a’r Fatican. (rhagor…)
Ali Campbell o UB40 yn addo bod hyd yn oed yn well na Status Quo
Datgelwyd y bydd y cerddor o fri a ffurfiodd un o fandiau reggae gorau’r byd yn darparu penllanw bywiog iawn i ŵyl fawr.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i gael Ali Campbell, llais UB40 a werthodd 70 miliwn o recordiau, i ganu yn eu cyngerdd i gloi’r ŵyl ar nos Sul, 12 Gorffennaf.
Bydd dau aelod arall a sefydlodd UB40 yn ailymuno ag ef ar lwyfan yr eisteddfod – sef yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r canwr, Astro a’r chwaraewr bysellfwrdd, Mickey.
Noddir y cyngerdd gan y cwmni arobryn Village Bakery, sef y cynhyrchwr sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. (rhagor…)
Burt Bacharach i berfformio yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf erioed

Mae trefnwyr gŵyl flaenllaw yn dathlu ar ôl llwyddo i gael y cawr cerddorol Burt Bacharach i berfformio yn nigwyddiad eleni.
Bydd Burt Bacharach, a ddisgrifiwyd gan lawer fel cyfansoddwr caneuon mwyaf yr 20fed ganrif, yn agor Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gyda chyngerdd ychwanegol ar ddydd Llun, 6 Gorffennaf.
Roedd yr ŵyl yn wreiddiol i fod i ddechrau ar y diwrnod canlynol, ond nos Lun oedd yr unig amser yr oedd Burt Bacharach ar gael yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros 60 mlynedd mae 73 o ganeuon Bacharach wedi cyrraedd siart 40 uchaf yr Unol Daleithiau a llwyddodd 52 o’i ganeuon i gyrraedd 40 uchaf y DU. A does dim arwydd ei fod yn arafu chwaith wrth iddo ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ei ymweliad cyntaf erioed â gogledd Cymru. (rhagor…)