Y GIG yn cael ‘Help Llaw’ gan yr Eisteddfod Ryngwladol gyda’r Big Live Singalong

Y seren teledu Coleen Nolan ac Enillydd Love Island 2017, Amber Davies, yn cyflwyno’r ‘Big NHS Singalong Live’ gan ITV i Ddathlu 70 mlynedd o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Cafwyd diweddglo calonogol ac emosiynol i ail ddiwrnod Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wrth i Coleen Nolan ac Amber Davies arwain Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol llawn mewn sesiwn o ganu byw ledled y wlad gyda chân eiconig y Beatles, With a Little Help from My Friends.

Roedd y perfformiad yn benllanw i ymgais Endemol Shine North i gasglu côr o arwyr anhysbys y GIG, cantorion o’r byd pob a chantorion byw mewn lleoliadau ledled y DU, i geisio torri record y byd am y sesiwn ganu byw mwyaf erioed i’w ddarlledu ar y radio.

Codwyd lleisiau yn unedig i gefnogi’r sefydliad, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 ddydd Iau 5 Gorffennaf, yn fuan wedi’r cyngerdd Y Casgliad Clasurol, oedd yn cynnwys perfformiadau gan Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Vicky Yannoula a’r pianydd enwog, Peter Jablonski.

Yn gynharach yn y noson, fe wnaeth cystadleuwyr rownd derfynol Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine swyno’r gynulleidfa gyda pherfformiadau syfrdanol, o safon byd-eang, gyda Charlotte Hoather, o Sir Gaer, yn cael ei henwi yn enillydd 2018.

Yn ystod amser trafod y beirniad, camodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen, Vicky Yannoula, at ei phiano ochr yn ochr â’r pianydd enwog Peter Jablonski, a rhoi gwledd i’r gynulleidfa gyda rhaglen gyfareddol o gerddoriaeth boblogaidd, gan gynnwys darnau eiconig o The Nutcracker Suite gan Tchaikovsky wedi’u trefnu gan Nicolas Economou, Fêtes o Nocturnes gan Debussy (wedi’u trefnu gan Ravel) a’r darn hynod gyffrous gan Lutoslawski, Paganini Variations.

Yn dilyn y cyd-chwarae anhygoel ar y ddwy biano, daeth Cantorion Sirenian Singers i’r llwyfan. Fe wnaeth y côr gwych o 50 o leisiau cymysg o Ogledd Cymru, sef y côr cyntaf o Gymru i ennill tlws Côr y Byd yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn 1998, gyflwyno diweddglo cyfareddol oedd yn cynnwys ffefrynnau corawl fel Y Tangnefeddwyr, Elijah Rock a Hobed O Hilion.

Yn siarad wedi’r perfformiad, dywedodd Vicky Yannoula, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen: “Roedd cael y cyfle i berfformio ar lwyfan y Pafiliwn – yn ystod fy Eisteddfod Ryngwladol gyntaf a gyda Peter Jablonski sy’n enwog yn fyd-eang – yn gyffrous iawn.

“Ynghyd â’r talent corawl newydd a chyffrous a welwyd yng nghystadleuaeth fawreddog Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine a’r perfformiad gwych gan Gantorion Sirenian Singers, roedd y noson yn ddathliad o’r radd flaenaf o gerddoriaeth glasurol ac roedd hi’n anrhydedd cael bod yn rhan ohono.”

Ychwanegodd Dr Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen: “Wedi gweithio fel Meddyg Teulu gyda’r GIG mae’n sefydliad sy’n agos iawn at fy nghalon. Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r sesiwn ganu byw, oedd yn ffordd hwyliog a chynhwysol o ddweud diolch i’r arwyr anhysbys sy’n cadw’r GIG yn rhedeg ac ymuno yn nathliad ei ben-blwydd yn 70.

“Byddwn yn parhau i gydnabod y GIG ddydd Iau 5 Gorffennaf, pan fyddwn yn croesawu Olwen Williams OBE fel Llywydd y Dydd, gan anrhydeddu ei gyrfa GIG ysbrydoledig ei hun.”