Y seren opera Syr Bryn Terfel yn lansio ymdrech i ganfod sêr canu’r dyfodol

Cystadleuaeth Eisteddfod Llangollen yn “gyfle gwych”

Gyda llun

Mae’r seren opera Syr Bryn Terfel yn annog cantorion ifanc mwyaf talentog y byd i ymgeisio am deitl a allai eu helpu i ddilyn yn ôl ei draed i lwyddiant rhyngwladol.

Yn ôl y bas bariton enwog, mae cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn “gyfle gwych”.

Bydd Syr Bryn, sy’n hanu o Bantglas, ger Penygroes, yng Ngwynedd, yn arwain cyngerdd cloi’r Eisteddfod ddydd Sul, Gorffennaf 13, yn y Pafiliwn Rhyngwladol.

Mae’n bwriadu canu’r holl ganeuon o’i albwm ddiweddaraf, Sea Songs, a bydd y Fisherman’s Friends, y grŵp gwerin enwog o Port Isaac, Cernyw, a’r canwr gwerin Cymreig Eve Goodman yn ymuno gydag ef.

Ond bydd y cyngerdd yn dechrau gyda rownd derfynol cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine eleni sydd wedi dod yn uchafbwynt mawr i’r ŵyl ers iddi gael ei lansio yn 2013.

Y llynedd fe wnaeth 28 o gantorion ifanc dawnus gymryd rhan yn y gystadleuaeth gyda’r soprano o Singapôr, Shimona Rose, 29 oed, yn ennill y teitl mawreddog mewn perfformiad gwefreiddiol yn erbyn y soprano dalentog o Gymru, Manon Ogwen Parry.

Unwaith eto, mae’r gystadleuaeth Rhuban Glas yn cael ei noddi gan y sefydliad gofal sy’n caru’r celfyddydau, Parc Pendine, trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT) sy’n cefnogi mentrau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru.

Bydd Syr Bryn yn cyflwyno Tlws Pendine, ynghyd â siec am £3,000 i’r buddugwr tra bydd y sawl ddaw yn ail yn derbyn £1,000.

Y dyddiad cau i ddarpar gantorion gyflwyno cais i gymryd rhan yw Chwefror 20.

Dywedodd Syr Bryn: “Mae cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn gyfle gwych i gantorion ifanc talentog wneud eu marc a gall fod yn hwb go iawn ar gyfer gyrfaoedd newydd ar y llwyfan rhyngwladol.”

Bydd gofyn i bob ymgeisydd gynnwys recordiad sain yn ogystal â phrawf oedran gyda’u cais.

Mae’n ofynnol i gystadleuwyr, sydd dros 19 oed ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth, berfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at saith munud o hyd yn y rowndiau rhagbrofol a hyd at 10 munud o hyd yn y rownd derfynol. Dylai’r rhaglenni gynnwys gweithiau o oratorio, opera, lieder neu gân a chael eu canu yn eu hiaith wreiddiol.

Bydd yn rhaid i’r cystadleuwyr gymryd rhan yn y rownd ragbrofol a’r rownd gynderfynol ar ddydd Gwener, 11 Gorffennaf, cyn mynd ymlaen i’r gystadleuaeth derfynol ddeuddydd yn ddiweddarach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Llangollen, Dave Danford: “Yn y gorffennol llwyfannwyd y gystadleuaeth yn ystod cystadleuaeth Côr y Byd ar y nos Sadwrn ond roeddem yn meddwl y byddai’n wefr i’r cantorion ifanc sy’n cystadlu am y teitl hwn, ac yn dyheu am gyrraedd yr un uchelfannau â Bryn, i ymddangos ar yr un llwyfan â’r cawr opera.

“Mae’r gystadleuaeth yn gam ymlaen da i yrfa broffesiynol cantorion ifanc a hyd yma rydym wedi derbyn dros ddwsin o geisiadau gan gantorion ar gyfer cystadleuaeth eleni, o wledydd fel Tsieina a Nigeria yn ogystal â Chymru a Lloegr.

“Ond mae gan gantorion tan ddydd Iau, Chwefror 20, i ddatgan eu diddordeb a chyflwyno eu ceisiadau. Yn dilyn y dyddiad cau bydd panel dethol yn ystyried y ceisiadau ac yn dewis y cantorion fydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth eleni.”

Mae llwyddiant parhaus y gystadleuaeth yn fiwsig i glustiau perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, a feddyliodd am y syniad.

Dywedodd Mr Kreft: “Mae safon y cystadleuwyr yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hollol rhyfeddol ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y safon yr un mor anhygoel o uchel eto eleni.

“Rwy’n dymuno pob lwc i’r cantorion ifanc yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine eleni. Nid wyf yn genfigennus o dasg y panel dethol a’r beirniaid gan fod y cantorion i gyd mor eithriadol o dda.

“Yn ogystal â chael cyfle i arddangos eu talent, bonws ychwanegol i’r cystadleuwyr eleni fydd y wefr o ymddangos ar yr un llwyfan â Syr Bryn Terfel, cawr gwirioneddol o’r byd opera.”

Wrth edrych ymlaen at raglen cyngherddau nos yr Eisteddfod eleni dywedodd Dave Danford: “Mae’r rhaglen cyngherddau yn edrych yn wych gyda rhywbeth i bawb.”

Bydd y canwr roc chwedlonol Roger Daltrey yn agor tymor cyngherddau Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025 ar ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf gyda noson llawn caneuon enwog The Who, caneuon unigol, a’i sesiynau holi ac ateb enwog, lle mae’n agor ei galon i’r cefnogwyr sydd wedi ei ddilyn dros y degawdau.

Y noson ganlynol bydd cyngerdd arbennig yn nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.

Ychwanegodd Mr Danford: “Mae Uno’r Cenhedloedd: Un Byd yn gyngerdd nodedig sy’n dod â lleisiau o bob cwr o’r byd at ei gilydd i ddathlu grym cerddoriaeth wrth hyrwyddo heddwch, cydraddoldeb ac urddas dynol.

“Bydd y noson yn cynnwys perfformiad o waith Karl Jenkins One World, gan gôr o leisiau torfol rhyngwladol, gan gynnwys Côr Stay At Home.

“Mae’r artist KT Tunstall, sydd wedi ennill gwobrau Grammy, yn nodi 20 mlynedd ers ei halbwm cyntaf arloesol Eye to the Telescope, mewn perfformiad arbennig gyda cherddorfa fyw ar y nos Iau a bydd Il Divo, y grŵp lleisiol clasurol byd-enwog yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar ddydd Gwener, 11 Gorffennaf.”