Parêd y Cenhedloedd yn teithio’r rhanbarth

I dorri traddodiad mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi mynd â Pharêd y Cenhedloedd i strydoedd trefi a dinasoedd yn y rhanbarth.

Mae’r parêd sy’n ‘garnifal bywiog o ddiwylliannau’ blynyddol yn cynnwys berfformwyr yn chwifio baneri sy’n cynrychioli eu cenedl. Mae bob amser wedi cael ei gynnal yn nhref unigryw Llangollen, sef cartref yr Ŵyl. Am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl, bu gwirfoddolwyr yn cerdded strydoedd Lerpwl, Caer, Wrecsam a Croesoswallt i ddathlu lansio rhaglen ddyddiol hwyliog yr Eisteddfod Ryngwladol.

Roedd gorymdeithiau bach ddoe yn cynnwys myfyrwyr ifanc o’r ysgol leol, Ysgol Dinas Brân, ac fe wnaethant ymweld â Lerpwl, Caer, Wrecsam a Croesoswallt ar daith i gyhoeddi lansiad yr Ŵyl.

Dywedodd Dr Rhys Davies, Cadeirydd yr Ŵyl: “Gan chwifio casgliad lliwgar o faneri, gorymdeithiodd ein parêd rhyngwladol drwy dref Wrecsam mewn arddangosfa sionc o undod a chyfeillgarwch rhyngwladol.

“Mae bob amser yn hynod o gyffrous cyhoeddi ein harlwy dyddiol ac rydym yn gobeithio y bydd ein gorymdaith yn ysbrydoli pawb i ymuno â ni ar gyfer ein gŵyl wythnos o hyd sydd yn llawn cerddoriaeth a dawns yr haf hwn.”

O ddydd Mawrth 2 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 6ed Gorffennaf, mae maes yr ŵyl yn fôr o liwiau llachar a synau eclectig, gyda chanu byrfyfyr a dawnsio o ledled y byd. Gallwch fwynhau diwrnod unigryw allan gyda digon o brofiadau i ddewis ohonynt: sgiliau syrcas, gweithgareddau celf a chrefft, gweithdai dawns, peintio wynebau ac amrywiaeth o arddangosfeydd, stondinau a siopau bwyd rhyngwladol.

Mae’r tri llwyfan yn yr awyr agored yn cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth a dawns y byd, gwerin, clasurol, jazz, indie, acwstig, gwreiddiau, ac opera, reggae celtaidd, a roc, tra bydd adloniant o’r radd flaenaf yn parhau yn y prif bafiliwn lle mae corau, dawnswyr ac unawdwyr o wledydd gwahanol yn cystadlu am gydnabyddiaeth ryngwladol a gwobrau.

Mae tocynnau ar gyfer Eisteddfod Llangollen 2019 â’i llu o sêr ar werth a gellir eu prynu yma neu drwy’r swyddfa docynnau (01978 862001). Mae cynnig tocyn cynnar i’r maes am £5 ar gael gan ddefnyddio’r cod disgownt NEWS19.

I gael rhagor o fanylion am y rhaglen dydd ar gyfer pob diwrnod, ewch i dudalen Yn y Pafiliwn neu Ar y Maes

Am newyddion rheolaidd a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Ŵyl dilynwch ni ar Twitter, hoffwch ein tudalen Facebook neu dilynwch ni ar Instagram.