
Mae gweddw y seren opera y tenor Luciano Pavarotti yn bwriadu ymweld ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a ysbrydolodd yrfa wych ei gŵr.
Mae Nicoletta Mantovani yn dweud y bydd hi’n “anrhydedd fawr” iddi gyflwyno tlws i enillydd cystadleuaeth seren opera’r dyfodol, a fydd yn gobeithio dilyn ôl troed disglair Pavarotti.

Yn ystod ei hymweliad bydd hefyd yn nodi sawl carreg filltir bwysig, sef 70 mlynedd ers profiad cyntaf Pavarotti o’r ŵyl, 30 mlynedd ers ei ymddangosiad hynod gofiadwy yn 1995 a’r hyn fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 90 oed ar Hydref 12 eleni.
Dim ond 19 oed oedd Pavarotti ac yn athro dan hyfforddiant pan ddaeth i Eisteddfod Llangollen yn 1955 gyda’i dad, Fernando, fel rhan o Gorws Rossini, o’u dinas enedigol, Modena.
Fe wnaethon nhw adael yr ŵyl fel y côr buddugol ac aeth Pavarotti adref hefyd yn benderfynol o wneud cerddoriaeth yn yrfa i’w hun, ac yn ddiweddarach dywedodd mai ennill yn Llangollen oedd y gwreichion a daniodd ei freuddwyd.
Pan ddaeth yn ôl fel seren byd-enwog ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995, dywedodd: “Rydw i bob amser yn dweud wrth newyddiadurwyr pan maen nhw’n gofyn i mi beth yw diwrnod mwyaf cofiadwy fy mywyd, mai yr adeg yr enillais y gystadleuaeth hon oherwydd roeddwn yma gyda fy holl ffrindiau.”
Bydd Nicoletta Mantovani yn teithio o’i chartref yn yr Eidal i gyflwyno Tlws Pendine i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, ar ddiwedd rownd derfynol y gystadleuaeth ar nos Sul olaf Eisteddfod Ryngwladol 2025.

Hefyd yn cyflwyno’r wobr bydd Mario Kreft MBE a’i wraig, Gill, perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine sy’n hoff iawn o’r celfyddydau acsy’n noddi’r wobr unwaith eto eleni, ynghyd â seren fawr arall o’r byd opera, Syr Bryn Terfel.
Ac mewn pluen arall yn het yr Eisteddfod, y noson cyn hynny bydd Nicoletta wedi bod ar lwyfan byd-enwog y Pafiliwn ochr yn ochr â chadeirydd yr ŵyl, John Gambles, i gyflwyno Tlws Pavarotti, a enwyd i gofio am ei diweddar ŵr, i enillwyr Cystadleuaeth Côr y Byd.
Dywedodd Nicoletta Mantovani: “Mae’n anrhydedd fawr ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn dod i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gyflwyno’r ddwy wobr anhygoel hyn. Mae hynny oherwydd mai’r ŵyl hon oedd dechrau popeth i Luciano ac mae nodi’r ddau ben-blwydd hyn yn bwysig iawn,” meddai Nicoletta, sy’n llywydd Sefydliad Pavarotti, a sefydlwyd ganddi yn dilyn marwolaeth ei gŵr.
Mae’r sefydliad yn trefnu cyngherddau teyrnged gyda sêr opera fel Jose Carreras a Placido Domingo, gan gynnal arddangosfeydd sy’n adlewyrchu bywyd a gwaith Pavarotti a hefyd yn trefnu perfformiadau gan gantorion opera ifanc sydd wedi cael eu darganfod neu sy’n cael eu hyrwyddo gan y Sefydliad.
Esboniodd Nicoletta: “Roedd gan Luciano ddwy freuddwyd. Y gyntaf oedd dod ag opera i bawb a’r ail oedd dod â phobl newydd i fyd opera a allai ddod yn gantorion y dyfodol, ac yn sicr mae’r ddwy gystadleuaeth hyn yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn cyflawni hynny.
“Bydd dod i Langollen yn brofiad emosiynol iawn i mi, oherwydd dywedodd Luciano wrthyf na fyddai ei yrfa wedi bod yn bosibl heb ei ymddangosiad cyntaf yno yn 1955.
“Byddai’n dweud wrthyf yn aml, sut nad oedd ei gôr yn disgwyl ennill, sut roedden nhw’n aros am ddyfarniad y beirniaid ac yn gyntaf enwyd y côr a oedd yn y chweched safle, yna y côr yn y pumed safle ac yn y blaen. Roedden nhw’n nerfus dros ben ond pan gyhoeddwyd yr ail safle a’u henw nhw heb gael ei alw, roedden nhw’n gwybod eu bod wedi ennill ac roedden nhw’n crio mewn llawenydd.
“Yn 1995 roedd Luciano eisiau mynd yn ôl yno i ddathlu 40 mlynedd ers y fuddugoliaeth honno ac i ysbrydoli eraill am opera oherwydd ei fod yn lle mor arbennig.”
“Bydd ei phresenoldeb i gyflwyno Tlws Pavarotti a Thlws Pendine, ochr yn ochr â sêr rhyngwladol fel Syr Bryn Terfel a’n partneriaid yn Parc Pendine, yn gwneud yr Eisteddfod eleni yn achlysur gwirioneddol gofiadwy.
“Mae etifeddiaeth Luciano wedi bod yn rhan annatod o Langollen ers amser maith, ac mae anrhydeddu’r cysylltiad hwnnw wrth ddathlu ei fywyd a’i gerrig milltir rhyfeddol yn fraint go iawn i ni i gyd.”
Mae Parc Pendine yn noddi Llais Rhyngwladol y Dyfodol drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymunedol Pendine (PACT) sy’n cefnogi mentrau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn ystod cyngerdd cloi’r ŵyl ar ddydd Sul, 13 Gorffennaf, pan fydd Syr Bryn Terfel yn perfformio caneuon o’i albwm diweddaraf, Sea Songs, gyda’r grŵp gwerin enwog Fisherman’s Friends hefyd yn perfformio.
Dywedodd Mario Kreft: “Cafodd Gill a minnau y fraint o fod ar y Maes y tu allan i’r pafiliwn yn gwylio perfformiad gwych Pavarotti ar sgrin fawr yn 1995, pan wnaeth hyd yn oed berfformio aria neu ddau yn yr awyr agored.
“Mae Pendine hefyd yn dathlu pen-blwydd arwyddocaol eleni – ein 40 mlwyddiant – ac rydym wrth ein boddau bod Nicoletta Mantovani yn awyddus i gyflwyno Tlws Pendine yn ystod yr hyn rwy’n siŵr fydd yn ymweliad cofiadwy ac emosiynol am gymaint o resymau.
“Bydd Luciano Pavarotti bob amser yn cael ei gofio fel un o’r tenoriaid gorau a mwyaf annwyl erioed – ac mae’n hyfryd meddwl mai Eisteddfod Llangollen yw lle dechreuodd ei daith ryfeddol i fod yn arwr opera.
“Bydd y ffaith fod Nicoletta Mantovani yn cyflwyno’r gwobrau yn sicr yn ysbrydoliaeth enfawr i’r cnwd presennol o gantorion ifanc talentog sy’n gobeithio cychwyn ar eu gyrfaoedd newydd eu hunain.
“Roedd yn hyfryd clywed bod cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn cyd-fynd ag awydd Pavarotti i annog a meithrin sêr canu’r dyfodol, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau.
“Bydd y ffaith y bydd Syr Bryn Terfel yno hefyd yn gwneud yr achlysur yn un arbennig dros ben oherwydd ei fod ef hefyd yn brawf amlwg y gall dawn fawr fynd â chi yn bell, ac rydym yn falch iawn o wneud ein rhan i helpu cantorion ifanc dawnus i gyrraedd uchelfannau newydd.”