Alfie Boe

Mae llais eithriadol Alfie wedi cadarnhau ei le fel lleisydd mwyaf poblogaidd Prydain ei genhedlaeth.

Yn artist recordio hynod lwyddiannus, y llynedd fe lwyddodd ei albwm Nadolig ‘Together’, a wnaed gyda’i gyfaill mawr Michael Ball OBE, i gyrraedd rhif 1 yn y siartiau a chael statws Platinwm Dwbl. Dychwelodd y ddau eleni gydag albwm rhif 1 arall, “Together Again” a ryddhawyd yn ddiweddar, ynghyd â thaith ysgubol arall a rhaglen awr arbennig ar ITV. Dyma’r llwyddiant diweddaraf yng ngyrfa artist sydd wedi torri’r ffiniau trwy ei gariad at gerddoriaeth, o ennill bri ar y llwyfannau opera mawr a sioeau’r West End, i gael llwyddiant mawr yn y siartiau.

Ganwyd Alfie yn Blackpool yn 1973, ac fe’i magwyd yn Fleetwood, a’i freuddwyd erioed oedd cael gyrfa fel canwr. Cafodd ei ddarganfod wrth ganu ar y llinell gynhyrchu yn y gwaith mewn ffatri ceir yn Sir Gaerhirfryn. Yr ieuengaf o naw o blant, ysbrydolwyd Alfie gan gariad ei rieni at opera o oed cynnar iawn.

Eleni, anrhydeddwyd Alfie gyda Phlac Glas yn nhref ei fagwraeth fel rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC. Bob blwyddyn mae’r Ymddiriedolaeth Placiau Glas yn anrhydeddu nifer fechan o bobl am eu dylanwad ar y dirwedd gerddorol ledled y wlad. Cafodd ei enwi hefyd yn Llysgennad Diwrnod Cerddoriaeth y BBC ar gyfer 2017.

Mae taith Alfie wedi mynd ag ef o’i addysg opera yn y Coleg Cerdd Brenhinol a Rhaglen Artistiaid Ifanc y Tŷ Opera Brenhinol yn syth i lwyfannau Broadway, pryd cafodd ei ddewis gan y cyfarwyddwr ffilm a theatr Baz Luhrmann i serennu yn ei adfywiad disglair o ‘La Boheme’ yn 2002. Dathlodd Alfie ei ymddangosiad ar y llwyfan rhyngwladol drwy ennill Gwobr Tony.

Gan fod Alfie yn gefnogwr cerddoriaeth glasurol a roc clasurol, yn 2015 cydweithiodd gydag un o’i arwyr. Yn ‘Classic Quadrophenia’, fersiwn cerddorfaol o albwm nodedig The Who, gan weithio gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a’r cyfansoddwr Pete Townshend, a ddewisodd ef i chwarae’r brif ran, sef Jimmy y mod ifanc, ar gyfer perfformiadau rhyfeddol yn Neuadd Royal Albert yn Llundain a Fiena. Yn 2017 dychwelodd Alfie i ran Jimmy gan berfformio ochr yn ochr â Pete a Billy Idol mewn cyfres o sioeau hynod lwyddiannus yn UDA, gan gynnwys dwy noson yn Nhŷ Opera’r Metropolitan.

Dychwelodd Alfie hefyd i Golisiwm Llundain eleni i serennu yn ‘Carousel’ gan Rodgers a Hammerstein, gan chwarae rhan y llanc drwg ‘Billy Bigelow’. Mae yr un mor gyfforddus yn arwain cast ‘Les Miserables’ fel Valjean yn y cynhyrchiad West End (gan gynnwys perfformiad 25ain pen-blwydd y cynhyrchiad yn Arena O2 yn 2010), ag ydyw yn serennu yn sioe dathliadau pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 90 oed yng Nghastell Windsor.