Gwel 2019 ugain-mlwyddiant y band Jamie Smith’s MABON, a chydag albym BYW newydd i ddathlu’r achlysur, mae’r band yn fwy eiddgar nag erioed i chwarae eu sioe fyw wych ym mhedwar ban byd.
Ugain mlynedd; pedwar cyfandir; a thua mil o gyngherddau ers eu perfformiad cynta, rhyddhaodd MABON eu seithfed albwm, ‘Twenty’, ym mis Tachwedd 2018. Wedi ei recordio’n fyw, mae’n cynnwys cerddoriaeth mwyaf newydd y band; ac hefyd ddetholiad o ffefrynau eu dilynwyr dros y ddau ddegawd diwethaf, wedi eu hail-wampio ar gyfer eu taith penblwydd. Mae’r albwm yn pwysleisio pam fod y band yma ‘wedi seilio’u enw da ar berfformiadau byw gwefreiddiol a recordiadau cywrain’.
Bwriad MABON yw archwilio’r traddodiadau Celtaidd, a chreu cyfansoddiadau cyfoes o fewn yr arddull; rhoi sain heddiw i syniadau hynafol. Cerddoriaeth Fyd eithriadol, gymhellol, yw’r canlyniad, sy’n llawenu’r enaid ac yn peru i’r traed dapio – a’r cwbl wedi ei gyflwyno’n ddiffwdan gydag hiwmor ysgafn a dawn hynod.
Eleni bydd y band yn chwarae’r tracie hen a newydd yma i’w cynulleidfa ffyddlon adre yng Nghymru; o amgylch Prydain; yn Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, Canada – unrhywle yr aiff eu taith a nhw – ac fe fasai’r band yn dwli eich gweld chi wrth i’w llwybr ddod gerllaw’ch ardal chi.
“Bu MABON yn fand erioed sy’n mynegu’u crefft i’r eithaf pan yn perfformio’n fyw; ac mae eu gallu i gyffroi a bywiogi cynulleidfa heb ei debyg” (folkradio.co.uk); “does neb tebyg ymhlith eu cyfoedion” (Songlines).