Kaiser Chiefs

“Mae’r Kaiser Chiefs wedi gwneud yn dda iawn o gael syniadau uchelgeisiol ar y naw,” medd Ricky Wilson, wrth feddwl yn ôl dros grwsâd pop a ddechreuodd 14 mlynedd yn ôl ac sydd wedi gwerthu sawl albwm platinwm ar hyd y daith.

Mae Stay Together, chweched albwm y Kaiser Chiefs, yn finiog ond yn syndod o ramantus ac yn llawn bwrlwm, uchelgais a’r math o ganeuon gwych a ddaeth a’r band i amlygrwydd yn y lle cyntaf.

Yn ogystal â’r sengl ewfforig Parachute, mae albwm Stay Together yn cynnwys cân o’r un enw sy’n swnio fel rhywbeth oddi ar trac sain Saturday Night Fever, ac sy’n mynd a’r gwrandäwr ar daith anhygoel trwy gyfrwng electro grymus (Press Rewind) a grwf isel (Good Clean Fun). Ac mae hynny i gyd cyn i chi hyd yn oed gyrraedd nodau anthemig Hole In My Soul, cân sydd mor addas ar gyfer gŵyl haf, nes bod ei welingtons eisoes am ei thraed!

Mae’r albwm yn gweld newid hefyd yn agwedd Ricky tuag at ysgrifennu geiriau. Yn y gorffennol roedd ystyr wedi ei gladdu mor ddwfn nes bod neb yn gallu eu dehongli, mae’r ymdeimlad newydd o eglurder ar yr albwm yma yn dod o un sylweddoliad mawr. Fel dywed Ricky: “Mae’n well gwisgo’ch calon ar eich llawes.” Ac mae’r meddylfryd syml, dirodres yma, hyd yn oed yn amlwg yn nheitl yr albwm.

Mae Stay Together hefyd yn dweud llawer am daith y band ei hun. “Mi welais i ffrindiau cryf yn y grŵp yna,” meddai’r cynhyrchydd Brian Higgins. “Mae grwpiau yn aml yn ymladd – gyda’u label, eu rheolwyr, gyda’i gilydd – a fedrwch chi ddim ysgrifennu caneuon gwych pan fyddwch chi felly.”

Mae bellach yn ddeuddeg mlynedd ers i Oh My God gychwyn rhediad rhyfeddol o ganeuon gwych oedd hefyd yn cynnwys I Predict A Riot, Everyday I Love You Less And Less, Never Miss A Beat a Ruby a gyrhaeddodd rhif un yn y siartiau sengl. Ar ôl i Employment, ei halbwm cyntaf gael ei henwebu am wobr Mercury, aeth y band ymlaen i gipio tair gwobr yn y Brit Awards a llwyddodd ei hail albwm, Yours Truly, Angry Mob, i gyrraedd statws platinwm dwbl yn y DU. Yna fel sy’n digwydd wedi llwyddiant mawr, mi wnaeth pethau simsanu ychydig, gan gynnwys ymadawiad un o’r aelodau gwreiddiol Nick Hodgson. Mae holl lyfrau hanes y byd pop yn ein rhybuddio y dylai hynny fod yn arwydd o ddiwedd y band ar lefel greadigol a masnachol; yn 2012, roedd rhyddhau albwm o’u caneuon gorau fel pe bai yn cadarnhau hynny.

“Byddai’r rhan fwyaf o bobl gall wedi rhoi’r gorau iddi,” meddai Ricky gan chwerthin, ond mewn tro annisgwyl i stori’r Kaiser Chiefs mi wnaeth Ricky ganfod ei hun ar y teledu fel un o’r hyfforddwyr ar sioe adloniant deuluol The Voice. Yn fuan llwyddodd pumed albwm y band, Education, Education, Education & War i gyrraedd rhif un yn y siartiau, y tro cyntaf ers saith mlynedd iddyn nhw gael  llwyddiant o’r fath. Ar y pryd mi wnaeth Ricky fynd ar Twitter i drydar: “Dw i wrth fy modd pan fydd cynllun yn dod at ei gilydd.” Mae’n demtasiwn rhoi’r holl glod am hyn i broffil uchel Ricky ar y cyfryngau yn y DU, ond nid yw hynny’n egluro llwyddiant yr albwm yn Seland Newydd, lle cyrhaeddodd y band rif un am y tro cyntaf erioed, a’r rhif uchaf erioed y band yn siartiau yn yr Unol Daleithiau.

“Yn sydyn mi wnaethon ni ddechrau meddwl, waw, dydyn ni ddim yn suddo wedi’r cyfan,” meddai Ricky gan chwerthin. “Roedd yn golygu profi rhywbeth i ni’n hunain yn gymaint ag unrhyw un arall. Wrth feddwl yn ôl am y peth, roedd y llwyddiant yna’n golygu troi’r cwch rownd.”

Mae albwm Stay Together, mordaith gyffrous y band i ddyfroedd newydd, yn parhau’r daith. “Efallai na fyddwn byth yn cyrraedd y pwynt lle gallwn eistedd yn ôl yn braf mewn cadair freichiau a dweud: ‘hogia, rydan ni wedi’i wneud o’. Ond ar yr un pryd, efallai mai dyna pam fod y Kaiser Chiefs yn dal yma.”