
Rydym yn griw hwyliog a brwdfrydig. Mae llawer ohonom wedi canu gyda’n gilydd ers ffurfio’r côr yn 1996. Rydym yn ymarfer yn wythnosol yn Ysgol Plas Coch, yn canu caneuon gwerin Cymraeg digyfeiliant a repertoire cynyddol o ganeuon Cymraeg mwy modern. Rydym yn canu hen ffefrynnau o’r 1970au, yn ogystal â chaneuon mwy diweddar gan grwpiau fel Bwncath. Ein nod yw mwynhau canu a chymdeithasu gyda’n gilydd, gan gyfrannu at y gymuned Gymraeg lleol a gwneud ein gorau i ddod â mwynhad i eraill. Rydym yn falch o gefnogi elusennau lleol a chenedlaethol gymaint ag y gallwn. Fe lwyddon ni i ddal ati drwy’r cyfnod clo drwy recordio cân i godi arian ar gyfer Hosbis Tŷ’r Eos ac roeddem yn falch o godi dros £2,000! Dros y blynyddoedd rydym wedi annog cerddorion ifanc drwy roi cyfle iddynt berfformio gyda ni. Yn ddiweddar, rydym wedi perfformio yn nhafarn y Saith Seren ac yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam, ac ar faes Eisteddfod Llangollen yn ogystal â chyfrannu at gyngherddau mwy ffurfiol.