Peter Jablonski

Mae Peter Jablonski, y pianydd arobryn o Sweden, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am rwyddineb naturiol ei chwarae a’i wybodaeth eithriadol am repertoire piano, sy’n gwneud ei berfformiadau yn rhai oesol a hudolus. Artist amryddawn ac unigryw yw Jablonski yn sydd â dealltwriaeth eang a manwl o gampweithiau repertoire piano, sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr y byd ers dros bum mlynedd ar hugain. Mae wedi perfformio a recordio holl concertos piano Beethoven, Tchaikovsky, Rachmaninoff, a Bartók, a holl sonatas piano Prokofiev.

Gyda galw mawr amdano o gwmpas y byd fel un o brif ddehonglwyr rhestr eclectig o waith, mae Jablonski wedi perfformio gyda rhai o brif gerddorfeydd y byd gan gynnwys Cerddorfa Symffoni’r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Leipzig Gewandhaus, Kirov, La Scala Philharmonic, Tonhalle Zurich, Orchester Nationale de France, NHK Tokyo, DSO Berlin, Warsaw Philharmonic, Philadelphia, Los Angeles Philharmonic, a Cherddorfa Cleveland.

Mae wedi gweithio gyda chyfansoddwyr fel Witold Lutosławski ac Arvo Pärt, a bu’n cydweithio’n helaeth gydag arweinyddion amlwg fel Vladimir Ashkenazy, Valery Gergiev, Charles Dutoit, Kurt Sanderling, Esa-Pekka Salonen, Riccardo Chailly, Daniele Gatti, a Myung-Whun Chung.

Cyfansoddwyd nifer o weithiau’n arbennig ar gyfer Jablonski, gan gynnwys Concerto i’r Piano gan Wojciech Kilar, a enillodd wobr Orpheus iddo am y perfformiad rhyngwladol cyntaf yng Ngŵyl yr Hydref Warsaw.

Mae discograffi helaeth Jablonski yn cynnwys recordiadau y mae wedi eu gwneud ar gyfer labeli Decca, Deutsche Grammophon, Philips ac Altara dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Derbyniodd nifer o wobrau am ei recordiadau, gan gynnwys gwobr Edison a Gwobr Cerddoriaeth Glasurol Gramophone.