Rhodri Prys Jones

Gwnaeth y tenor, Rhodri Prys Jones, ei début proffesiynol gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Fyodor ac Ivanov yng nghynhyrchiad David Pountney o War & Peace yn yr Hydref, 2018. Bu hefyd yn dirprwyo rhan Ramiro yn La Cenerentola i’r cwmni yn ystod yr un tymor a dirprwyo Tamino iddynt yn The Magic Flute yn nhymor y Gwanwyn eleni.

Dechreuodd Rhodri ei astudiaethau gradd ar y cwrs Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd M.A. Astudiaethau Llais yn y Guildhall School of Music and Drama, Llundain. Cwblhaodd ei astudiaethau gydag Adrian Thompson ar y cwrs M.A. Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Mae ei rannau tra yn CBCDC yn cynnwys Tamino yn The Magic Flute; Ramiro yn La Cenerentola; Rinuccio in Gianni Schicchi; Sam Kaplan yn Street Scene; Jupiter yn Semele Handel, cyd-gynhyrchiad newydd rhwng Opera Canolbarth Cymru a CBCDC mewn partneriaeth â’r Academy of Ancient Music. Mae rannau operatig eraill yn cynnwys Nemorino yn L’elisir d’amore; Triquet a dirprwy Lensky yn Eugene Onegin i Opra Cymru; Lleu Llaw Gyffes yn Gwydion i Gwmni Theatr Maldwyn. Mewn golygfeydd opera, mae Rhodri wedi perfformio rhannau Ferrando yn Cosi fan tutte; Jenik yn Bartered Bride; Almaviva yn Barber of Seville; Jaquino yn Fidelio; Harlequin yn Der Kaiser Von Atlantis; Robert Devereux yn Gloriana ac El Remendado yn Carmen.

Mae ei brofiad fel aelod o gorws yn cynnwys Don Pasquale gyda Longborough Festival Opera a Francesca Di Foix, The Adventures of Pinnochio, San Giovanni Batista a The Cunning Peasant gyda’r GSMD.

Yn 2016, ymunodd â chynllun Artist Ifanc Alvarez Garsington Opera lle berfformiodd fel aelod o’r corws yn L’italiana in Algeri a The Creation gan Haydn. Yn 2015 ymunodd ag Opera Cenedlaethol Cymru fel aelod o ensemble o wyth yn Gair ar Gnawd gan Pwyll ap Sion.

Mae Rhodri yn artist cyngerdd poblogaidd. Ymhlith ei uchafbwyntiau mae ei début yn y Royal Albert Hall fel unawdydd gwadd yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain a pherfformio mewn Cinio Gala i Dywysog Cymru. Mae repertoire cyngerdd Rhodri’n cynnwys Messiah Handel, Elijah Mendelssohn, Crucifixion Stainer, Mass in F Minor Bruckner, Petite Messe Solennelle Gounod, Messa Di Gloria Puccini, The Seasons Haydn, Serenade to Music Vaughan Williams, Requiem Mozart a Carmina Burana Orff.

Mae Rhodri wedi rhoi sawl premiere byd o weithiau yn cynnwys Mass of the Martyrs gan Edward Rhys Harry ac In Memoriam gan Eilir Owen Griffiths. Yn 2017, recordiodd gyfieithiad newydd Cymraeg o’r Dioddefaint yn ôl Ioan gan J.S. Bach yng Nghadeirlan Llandaf a ddarlledwyd ar S4C. Mae ei ymddangosiadau teledu eraill yn cynnwys ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’, ‘Noson Lawen’ a  ‘Heno’ i S4C a pherfformio yn Seremoni Cofio ‘Canmlwyddiant Passchendaele, Trydedd Brwydr Ypres’ yn fyw ar BBC One o Passchendaele.

Mae Rhodri wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys Gwobr Ian Stoutzker 2017, ar gyfer cerddor mwyaf disglair y flwyddyn yn CBCDC, Gwobr Opera Janet Price, Ysgoloriaeth Glynne Jones a Gwobr Cwmni Busenhart Morgan-Evans.

Ariennir Rhodri gan Wobr Help Musicians Sybil Tutton ac Ysgoloriaeth y Fonesig Shirley Bassey.

www.rhodriprysjones.co.uk