Shân Cothi

Mae Shân Cothi yn bersonoliaeth adnabyddus yng Nghymru, yn berfformwraig amryddawn o gerddoriaeth glasurol a sioeau cerdd, yn actores brofiadol a chyflwynwraig deledu a radio.

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes gerdd, ond wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1995, cafodd ei hysbrydoli i droi’n gantores broffesiynol.

Yn 2000, castiwyd Shân yn rhan Carlotta yng nghynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o The Phantom of the Opera a bu’n perfformio’r rhan am bymtheg mis yn Theatr ei Mawrhydi yn y ‘West End’, Llundain. Yn 2014 gwnaeth Shân ei début yn rôl Mrs Lovett yn Sweeney Todd, gyda Bryn Terfel yn y brif ran, yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ac yn 2015, dirprwyodd Emma Thompson yn y rôl i English National Opera. I ddathlu 10fed penblwydd Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi 2015, perfformiodd Shân rôl y feistres hud chwedlonol Ceridwen yn Ar Waith Ar Daith – digwyddiad awyr agored ysblennydd llawn hud a lledrith a dros 700 o berfformwyr – ym Mhlas Roald Dahl, Bae Caerdydd.

Yn dilyn rhyddhau ei halbwm cyntaf, Passione gyda Cherddorfa Siambr Genedlaethol Cymru ar label Sain yn 2005, cafodd fideo hyrwyddo Caro Mio Ben, a recordiwyd yn Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ei dyfarnu ‘The Most Watched Video’  ar deledu Classic FM. Rhyddhawyd ei hail albwm hir-ddisgwyliedig, Paradwys ym mis Medi 2015 ar label Acapela, a chyrhaeddodd rif 26 yn siart Classic FM a rhif 18 yn y siartiau clasurol. Yn dilyn hyn, aeth Shân ar daith i hyrwyddo’r albwm mewn capeli a chanolfannau ar hyd a lled Cymru.

Mae Shân yn wyneb cyfarwydd ar deledu yng Nghymru. Gwnaeth ei début actio teledu yn chwarae rhan Davina Roberts yn y gyfres ddrama lwyddiannus, Con Passionate ar S4C ac fe’i henwebwyd yn y categori ‘Newydd-ddyfodiad Gorau’ yng ngwobrau BAFTA Cymru 2006. Cafodd ei chyfres deledu gerddorol ar S4C wobr BAFTA Cymru a’i henwebu ar gyfer y Rhaglen Gerddorol Orau yng Ngŵyl Montreux. Mae Shân wedi cyflwyno nifer o gyfresi teledu i S4C gan gynnwys Bro, lle’r oedd hi a’i chyd-gyflwynydd Iolo Williams yn teithio Cymru yn dysgu am wahanol ardaloedd a chyfres Y Sipsiwn lle dilynodd Shân hen lwybr y Romani Cymreig mewn carafán sipsiwn.

Mae Shân yn farchoges frwd. Yn 2012, ffilmiodd y rhaglen ddogfen Cheltenham Cothi, lle dilynwyd ei hyfforddiant i fod yn joci cystadleuol yn Derby Elusen Dydd Sant Padrig yn Cheltenham. Yn 2013 dringodd Fynydd Kilimanjaro i gefnogi Canolfan Ganser Felindre ac elusen Amser Justin Time, elusen a sefydlwyd gan Shân yn 2008 i godi ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas.

Ym Mehefin 2015, i nodi Diwrnod Cerddoriaeth y BBC, bu Shân yn rhan o sefydlu record byd newydd fel un hanner o ddeuawd oedd 7,000 o filltiroedd ar wahan – y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd. Trwy gyswllt byw, perfformiwyd ‘Calon Lân’ gan Shân a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghaerdydd ag Andres Evans yn y Wladfa a ddarlledwyd yn fyw ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 3.

Ymhlith uchafbwyntiau ei chyngherddau mae ‘Broadway to the Bay’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyngerdd a darllediad ’10 Difa’ o Venue Cymru Llandudno ar gyfer S4C, Noson Big Band yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni a Chyngerdd Dathlu 10 mlwyddiant Amser Justin Time ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.

Mae Shân yn cyflwyno rhaglen foreol ddyddiol yn ystod yr wythnos ar BBC Radio Cymru o’r enw Bore Cothi.

www.shancothi.co.uk