The Hoosiers

“Mi wnaethon ni ddod nôl am reswm syml iawn: mi wnaethon ni ddechrau mwynhau ysgrifennu caneuon eto.” Digon diffwdan yw disgrifiad y band o sut yr ailffurfiodd The Hoosiers, a thrwy wneud hynny ailgysylltu â’r hyn a wnaeth iddynt ffurfio fel band yn y lle cyntaf, ond mae’r golwg ar eu gwynebau wrth iddynt ddweud hynny yn dangos ei angerdd a cyfleu’r teimlad o ddod allan i’r golau eto wedi cyfnod yn y tywyllwch.

Mae The Hoosiers mewn lle da ar hyn o bryd, a dim rhyfedd, ar ôl cyhoeddi eu halbwm byrlymus ‘The News From Nowhere’. Mae cysylltu’n uniongyrchol efo cefnogwyr trwy Facebook mewn sgwrs barhaus wedi cyfoethogi ac adfywio’r band, a chadarnhau eu penderfyniad i ryddhau’r albwm ar eu liwt eu hunain. Eto i gyd, roedd yna adegau, fel y mae pob aelod o’r band yn barod i gyfaddef, lle’r oedd pethau’n llawer llai agored a rhwydd.

Roedd llwyddiant platinwm eu halbwm cyntaf, ‘The Trick to Life’, yn 2007 a senglau fel Worried About Ray and Goodbye Mr A, wedi codi disgwyliadau enfawr am yr albwm nesaf, yn enwedig ymysg label recordio The Hoosiers eu hunain. Mae’r pedwar yn cytuno bod yr albwm, gyda’r teitl proffwydol ‘The Illusion of Safety’, yn brosiect problemus o’r cychwyn cyntaf.

“Rwy’n edrych yn ôl rŵan ac yn teimlo ein bod ni mewn lle penodol a chyfyng iawn ar y pryd,” meddai Martin, “fel band ar label recordio mawr. Mae cerddoriaeth yn dod allan yn wahanol yn y byd hwnnw; mae artistiaid yn cael eu sgubo i ffwrdd gan ei reolau a’i safonau. Mi ddylai fod yn ni ein pedwar yn gwneud ein cerddoriaeth, ond nid dyna fel oedd pethau. A dyna’r gwahaniaeth mwyaf ar yr albwm newydd.”

Byddai’r fath brofiad negyddol o’r broses greadigol – ac eithrio ambell eiliad o hwyl – wedi bod yn ddigon i lawer o fandiau roi’r ffidil yn y to, ac yn wir mi gafwyd cyfnod lle’r oedd aelodau The Hoosiers i gyd ar wahân.

“Rwy’n cofio cyrraedd y pwynt,” meddai Al, “lle dywedais wrth y lleill, ‘Mae angen ychydig o ofod arnaf’. Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod hynny. Roedd angen i ni anghofio am y band am gyfnod.”

“Ac mi wnaeth hynny barhau am ryw flwyddyn, ac yna fe wnaethon ni ddod nôl at ein gilydd ac mi ddywedodd pawb, ‘Mae gen i rai caneuon, beth amdanoch chi?’”

Roedd “The News From Nowhere”, a ryddhawyd yn 2014, yn albwm ryfeddol a welodd y band yn ôl ar ei orau. “Roedd gwneud y peth ar ein telerau ni ein hunain,” meddai Irwin, “a chael llais go iawn ynddo, yn deimlad gwych. Doedd ganddon ni ddim i’w golli, ond llawer i’w brofi.”

Tensiwn, creadigrwydd, democratiaeth, dadlau, amser ar wahân, dod yn ôl at ei gilydd, ac yna y caneuon. Llawer ohonynt. Mae hunanymwybyddiaeth dyddiau’r cŵn eu hail albwm wedi hen fynd; wedi mynd hefyd y mae’r hunan-amheuaeth. Yn eu lle y mae yna hyder wedi’i wreiddio’n ddwfn, a phenderfyniad i beidio â gadael i ryddid a llawenydd y dyddiau cynnar ddiflannu byth eto.