Vicky Yannoula

Mae Vicky Yannoula yn gerddor clasurol sy’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fel pianydd cyngerdd, rheolwr, addysgwr ac entrepreneur. Hi yw Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dechreuodd Vicky gael hyfforddiant piano yn Corfu, Gwlad Groeg, lle cafodd ei geni. Mae ganddi raddau israddedig ac ôlraddedig gan y Coleg Cerdd Brenhinol a Choleg Goldsmiths.

Fel artiste cyngerdd mae ei pherfformiadau yn cynnwys ymddangosiadau unigol, datganiadau cerddoriaeth siambr a concerto yn Neuadd y Frenhines Elizabeth, Kings Place, Neuadd Gyngerdd Thessaloniki, Abaty Sherborne a Phriordy Christchurch. Mae Vicky wedi cydweithio gyda llawer o gerddorion dros y blynyddoedd mewn cyngherddau a phrosiectau addysgol. Mae hi wedi perfformio gydag Ensemble Botton Eurythmy mewn dwy daith cyngerdd ledled y DU a oedd yn cynnwys dros ddeugain o berfformiadau ac mae wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gan bianyddion fel Paul Badura-Skoda, Nelson Goerner a Boris Berman.

Mae Vicky wedi recordio gweithiau piano ar gyfer pedair llaw a dau biano gan Shostakovich i label Toccata Classics. Mae’r recordiad yn cynnwys premiere rhyngwladol cyntaf symffoni Rhif 9 Shostakovich ar gyfer piano pedair llaw a drefnwyd gan y cyfansoddwr. Mae hi hefyd wedi rhyddhau recordiad gyda Resonus Classics sy’n cynnwys y premiere rhyngwladol cyntaf o symffonïau 1 a 5 Beethoven wedi’u trefnu ar gyfer piano pedair llaw gan Czerny.