
Mae Olly Murs, sy’n enwog am frig y siartiau, yn dod â’i daith 15 Years of Hits i Ogledd Cymru yr haf nesaf.
Bydd un o ffefrynnau amlycaf Prydain, seren Troublemaker a Marry Me, yn perfformio Yn Fyw Ym Mhafiliwn Llangollen nos Wener 4 Gorffennaf, a bydd gwestai arbennig iawn, Lemar yn ymuno ag ef ar y noson.
Tocynnau ar werth 10yb dydd Gwener 11 Hydref o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Daeth Olly i enwogrwydd gyntaf ar The X Factor ar ITV yn 2009 ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus gyda dim llai na phedair sengl Rhif Un, saith albwm stiwdio a chwe enwebiad am Wobr BRIT.
Eleni mae wedi denu byddin hollol newydd o gefnogwyr ar ôl cyfnod llwyddiannus fel gwestai arbennig ar daith This Life Take That.
Gyda’i egni heintus, mae Olly yn cyflwyno catalog o ffefrynnau’r ffans gan gynnwys caneuon poblogaidd fel Please Don’t Let Me Go, Heart Skips A Beat, Dance With Me Tonight, Dear Darlin’, a Wrapped Up gan addo noson fythgofiadwy wrth iddo ddod i Langollen am y tro cyntaf.
Yn ymuno ag Olly fel gwestai arbennig iawn bydd y canwr-gyfansoddwr Lemar sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae Lemar, un o’r artistiaid unigol gwrywaidd mwyaf llwyddiannus o Brydain yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi cael cryn lwyddiant siart yn y DU ac Iwerddon gan ryddhau 10 sengl yn yr 20 uchaf, saith ohonynt ar eu hanterth yn y 10 uchaf, ac wedi gwerthu mwy na dwy filiwn o albymau.
Mae Lemar wedi ennill dwy Wobr Brit a thair Gwobr MOBO, ac wedi gweithio gyda llawer o fawrion y byd cerddoriaeth, o Lionel Richie i Justin Timberlake, Mary J Blige, Beyonce a Mariah Carey. Y llynedd rhyddhaodd Lemar ei 7fed albwm stiwdio Page In My Heart ac yn gynharach eleni bu’n serennu ochr yn ochr â Beverley Knight yn Sister Act yn y West End cyn ymuno â’r grŵp pop JLS ar eu taith.
Cyhoeddwyd eisoes y bydd y band roc o’r Alban, Texas, yn perfformio yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen nos Iau 26 Mehefin, tra bydd ffefrynnau byd-eang y byd roc pop The Script yn ymddangos nos Iau 3 Gorffennaf gyda mwy o gyhoeddiadau i ddod.
Cyflwynir y prif gyngherddau mewn partneriaeth rhwng hyrwyddwyr Live Nation Cuffe & Taylor ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Dywedodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor: “Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi Olly Murs ar gyfer yr haf nesaf. Mae Olly yn ffefryn gan y ffans yn cyflwyno sioeau egni uchel dro ar ôl tro. Mae’n seren bop am reswm, ac ochr yn ochr â’i westai arbennig iawn Lemar, rwy’n hyderus bydd Llangollen yn cael noson i’w chofio.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Dave Danford: “Rydym yn paratoi ar gyfer haf mawr o gerddoriaeth fyw yn Llangollen yr haf nesaf, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi Olly Murs a Lemar. Mae’n sicr o fod yn noson hwyliog, gyda dau o gantorion mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig!”