Roeddwn i’n hoffi’r syniad y gallech fynd a dod o’r Pafiliwn i wylio’r cystadlaethau ar y llwyfan. Mwynheais ddiwylliant llawer o wledydd gwahanol a oedd yn diddanu pobl o bob oed. Byddwn yn argymell hyn i bobl nad ydyn nhw erioed wedi bod yno o’r blaen, yn union fel fi gan mai dyma oedd fy Eisteddfod gyntaf, ac mi wnes i fwynhau gymaint nid hon fydd yr olaf chwaith.
Rhywbeth i bob oed