NOS IAU 26 MEHEFIN 2025
TOCYNNAU AR WERTH 9YB DYDD GWENER 4 HYDREF
Yn dilyn ymlaen o’u taith arena o’r DU sydd â phob tocyn wedi’i werthu, bydd Texas yn dod â’u sioe fyw boblogaidd a hoffus i Llangollen yr haf nesaf.
Dan arweiniad Sharleen Spiteri, bydd Texas yn arddangos pum degawd o gerddoriaeth o’r clasur byd-eang I Don’t Want A Lover i ganeuon cyfoes Mr Haze a Keep on Talking pan fyddant yn perfformio yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen nos Iau 26 Mehefin.
Gyda mwy na 40 miliwn o albymau wedi’u gwerthu, mae eu caneuon yn parhau i atseinio gyda chefnogwyr ar draws y byd gan gynnwys y bythol boblogaidd Say What You Want, Summer Son ac Inner Smile.
Tocynnau ar werth 9yb Dydd Gwener (4 Hydref) o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk
Wrth siarad am brif gyngherddau Llangollen, dywedodd Sharleen Spiteri: “Des i Llangollen ar gyfer gig yr haf hwn a chael fy syfrdanu gan yr awyrgylch anhygoel a’r lleoliad hardd. Bydd gennym ni noson wych gyda chi fis Mehefin nesaf, fedra i ddim aros i’ch gweld chi i gyd.”
Mae’r cyhoeddiad yn rhan o bartneriaeth barhaus gyda hyrwyddwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Live Nation, Cuffe & Taylor.
Dywedodd Peter Taylor, cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor: “Rydyn ni wedi cael y pleser o weithio gyda Texas o’r blaen ac maen nhw bob amser yn cynnal y sioe orau. Maen nhw wedi cael llwyddiant ar ôl llwyddiant dros 35 mlynedd anhygoel, felly yn sicr ni ddylid methu eu hymddangosiad cyntaf yn Llangollen!”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Dave Danford: “Heb os, mae Texas yn un o fandiau mwyaf annwyl a pharhaus y DU yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, ac rydym wrth ein bodd y byddant yn chwarae sioe ym Mhafiliwn Llangollen yr haf nesaf. Daeth Sharleen Spiteri i’n gweld yn ystod yr ŵyl eleni, a bydd yn wych ei chael yn ôl i ganol y llwyfan, ynghyd â gweddill y band, am noson i’w chofio!”
Cyhoeddwyd eisoes y bydd y band roc pop The Script yn ymddangos yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen ddydd Iau 3 Gorffennaf.