Roedd Mr Cadno Campus, Willy Wonka, Matilda a’i gelyn pennaf Miss Trunchball, i gyd yn rhan o’r perfformiad wrth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddathlu Diwrnod y Plant ar thema Roald Dahl.
Trefnwyd y digwyddiad ansbaredigaethus i ddathlu canmlwyddiant geni’r athrylith llenyddol o Gymru a hefyd fel diweddglo i brosiect Trosfeddiannu 2016 Ysgolion Sir Ddinbych.
Mae’r prosiect wedi gweld 24 o ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd y sir a 3,943 o ddisgyblion o bob oed yn cymryd rhan mewn gweithdai Roald Dahl gan gyrraedd uchafbwynt gyda pherfformiad promenâd o amgylch safle’r ŵyl yn Llangollen.
Dywedodd Sarah Dixon, swyddog cyfoethogi’r cwricwlwm Gwasanaeth Addysg a Phlant Sir Ddinbych, bod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn llwyfan delfrydol ar gyfer penllanw’r prosiect gwych.
Meddai: ‘Mae llwyddo i gyrraedd bron i 4,000 o ddisgyblion sydd o ganlyniad i hynny wedi cael eu hysbrydoli gan Roald Dahl yn wych.
“Roedd pob ysgol yn edrych ar lyfrau a chymeriadau gwahanol Roald Dahl. Mi wnaethon ni addurno’r ysgol gyda balwnau a gwaith celf ar thema Roald Dahl ac roeddem i gyd yn gwisgo crysau-T y prosiect.
“Roedd y gweithdai yn cynnwys gweithgareddau adrodd straeon a drama, theatr gerdd a phypedau a gwneud masgiau. Mi wnaeth pob un o’r 23 o ysgolion a gymerodd ran greu pyped mawr yn seiliedig ar gymeriad gan Roald Dahl a oedd wedyn yn cael ei wisgo gan ddisgybl o’r ysgol.
“Mi wnaeth y 23 o bypedau orymdeithio drwy faes yr Eisteddfod cyn y perfformiad promenâd.
“Llythrennedd yw’r llinyn aur sy’n rhedeg drwy bob pwnc ysgol ac rydym am annog plant nid yn unig i ddarllen ond hefyd i fwynhau’r hyn y maen nhw’n ei ddarllen.”
Ychwanegodd: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a phan wnaeth Miss Trunchball ymddangosiad ar y llwyfan dw i erioed wedi gweld cymaint o blant wedi cyffroi!”
Dywed Sarah bod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen hefyd wedi cynnal rownd derfynol Cystadleuaeth Perfformwyr Ifanc Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar lwyfan y Post Brenhinol.
Meddai: “Daeth Mark Puddle, sy’n gweithio yn y West End, draw i feirniadu’r gystadleuaeth a dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda safon y perfformiadau.
“Enillodd Olivia Smith, naw oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Bryn Collen, Llangollen, ysgoloriaeth i fynychu gweithdy West End i’w gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ym mis Medi.
“Enillodd Beatrice Lermite, naw oed, hefyd o Ysgol Bryn Collen, y categori pump i naw oed tra llwyddodd Cassius Hacksorth, 15 oed, o Ysgol Dinas Brân, Llangollen, i ennill y categori 11 i 15 oed.
“Ac mi wnaeth Mark Puddle hefyd gyflwyno gwobr arbennig i Ysgol Cefn Meiriadog a fydd yn mwynhau gweithdy ar thema West End yn eu hysgol y mae Mark yn ei drefnu.”
Ychwanegodd: “Eisoes mae nifer o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer prosiect y flwyddyn nesaf ac rydym yn y broses o gynllunio ein digwyddiad ar gyfer 2017.”