Syr Bryn Terfel, KT Tunstall, Il Divo a Roger Daltrey i serennu yn Eisteddfod Llangollen

Bydd sêr byd roc, pop, opera a’r West End ymhlith y goreuon i berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng dydd Mawrth a dydd Sul 8-13 Gorffennaf, a bydd yr ŵyl wythnos o hyd yn cynnwys cyngherddau gyda’r hwyr gan Roger Daltrey o The Who, enillydd Gwobr BRIT KT Tunstall, y grŵp clasurol Il Divo, seren y West End Lucie Jones a’r llais opera blaenllaw Syr Bryn Terfel.

Mae Tocynnau Tymor yr ŵyl yn mynd ar werth am 10yb ddydd Mercher (11 Rhagfyr) yn ogystal â thocynnau ymlaen llaw ar gyfer Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, tra bod tocynnau unigol yn mynd ar werth yn gyffredinol am 9yb ddydd Gwener.

Am fwy o wybodaeth ewch i Llangollen.net

Bydd y canwr roc chwedlonol Roger Daltrey yn agor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen nos Fawrth 8 Gorffennaf gyda sioe yn llawn caneuon poblogaidd o’i gyfnod fel prif leisydd The Who ac o’i yrfa unigol glodwiw.

Y noson ganlynol ar nos Fercher 9 Gorffennaf, bydd cyngerdd corawl yn dathlu 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig.

Bydd yr enillydd Gwobr BRIT, KT Tunstall, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn Llangollen nos Iau 10 Gorffennaf, yn perfformio ei halbwm cyntaf eiconig Eye to the Telescope yn llawn, ynghyd â’r Absolute Orchestra dan arweiniad Dave Danford. A’r noson ganlynol, nos Wener 11 Gorffennaf, bydd y grŵp clasurol Il Divo yn dod â’u lleisiau syfrdanol i lwyfan y pafiliwn.

Bydd cystadleuaeth fyd-enwog Côr y Byd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf, gyda’r seren West End Lucie Jones, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn perfformio ddwywaith yn ystod y noson.

I gloi’r ŵyl nos Sul 13 Gorffennaf, bydd Syr Bryn Terfel yn perfformio ei albwm Sea Songs, sydd wedi ei ysbrydoli gan siantis y môr ac alawon gwerin morwrol. Yn ymuno ag ef ar y llwyfan bydd y gwesteion arbennig Fisherman’s Friends, a fydd hefyd yn perfformio eu set eu hunain, ynghyd â’r gantores o Gymru, Eve Goodman.

Mae’r ŵyl, sydd wedi’i chynnal bob haf ers 1947, yn hyrwyddo heddwch a chymodi trwy gerddoriaeth a dawns, a bydd unwaith eto’n croesawu’r byd i Gymru, gyda miloedd o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd yn tyrru i dref hardd Gymreig yr haf nesaf.

Yn 2024 bu’r ŵyl yn cyd-hyrwyddo nifer o sioeau ychwanegol y tu allan i wythnos yr Eisteddfod gyda hyrwyddwyr blaenllaw’r DU, Cuffe and Taylor. Mae hyn yn parhau yn 2025 gyda’r gyfres Yn Fyw ym Mhafiliwn Llangollen yn cael ei chynnal yn yr wythnosau cyn yr Eisteddfod gyda’r prif sioeau a gyhoeddwyd hyd yma yn cynnwys The Human League, James, Olly Murs, Rag’n’Bone Man, The Script, Texas, ac UB40 gyda Ali Campbell.

Dywedodd John Gambles, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, “Mae ein tîm yn falch iawn o ddod â rhai o artistiaid mwyaf y byd i Langollen. Mae gennym gyngherddau yr ydym yn wirioneddol gyffrous yn eu cylch. Mae hyn yn cynnwys prif leisydd chwedlonol The Who, Roger Daltrey, Il Divo sydd wedi gwerthu sawl miliwn albwm, a dychweliad hir-ddisgwyliedig Syr Bryn Terfel gyda’r Fisherman’s Friends.

“Bydd elfennau traddodiadol ein Heisteddfod hefyd yn eu hanterth gan gynnwys Gorymdaith y Cenhedloedd, Diwrnod y Plant, ein prosiect cymunedol – Rhythm a Gwreiddiau Cymunedol Cymru yn ogystal â chyngerdd gala arbennig, i ddathlu 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig. Llangollen unwaith eto fydd y lle i fod yr haf nesaf.”

Bydd Tocynnau Tymor yr ŵyl ar werth ddydd Mercher 11 Rhagfyr am 10yb, yn ogystal â thocynnau ymlaen llaw ar gyfer Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Mae tocynnau ar werth yn gyffredinol ddydd Gwener 13 Rhagfyr am 9yb.

Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Ryngwladol Llangollen sydd wedi curadu’r cyngherddau, “Rydym yn hynod o falch o fod yn cyhoeddi arlwy’r ŵyl y flwyddyn nesaf, sy’n cymysgu artistiaid rhyngwladol proffil uchel gyda threftadaeth a thraddodiadau’r Eisteddfod. Mae ‘na rywbeth at ddant pawb y flwyddyn nesaf, o leisiau eiconig Bryn Terfel, Il Divo a Roger Daltrey, i’r cyngherddau cerddorfaol (gan gynnwys cydweithrediad unigryw gyda KT Tunstall), i dalentau gorau Cymru (gan gynnwys Lucie Jones ac Eve Goodman). Mae cymaint i edrych ymlaen ato!”