
Bydd Syr Karl Jenkins yn cynnal cyngerdd cofiadwy yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni i nodi 80 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig. Bydd y cyngerdd, “Cenhedloedd Unedig:Un Byd”, yn dod ynghyd â lleisiau o bob rhan o’r byd,gan gynnwys Côr Byd, Corws “Covent Garden” o Lundain, a rhai o gorau rhyngwladol gwadd yr Eisteddfod.
Uchafbwynt y noson fydd perfformiad o gampwaith Karl Jenkins, “Un Byd”, gwaith corawl ar raddfa fawr i unawdwyr, côr a cherddorfa, sy’n cyhoeddi gweledigaeth o blaned heddychlon ac egalitaraidd sy’n trin natur a materion ecolegol gyda pharch a lle mae hawliau dynol yn gyffredinol. Mae’n adlewyrchu ei angerdd dros ddod â phobl at ei gilydd trwy bŵer cyffredinol cerddoriaeth, gan hyrwyddo neges heddwch a dealltwriaeth ar draws diwylliannau.
Bydd rhestr serol o unawdwyr yn cynnwys dau enillydd blaenorol cystadleuaeth “Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine” yr Eisteddfod, y ddau wedi parhau i yrfaoedd proffesiynol llewyrchus; y Soprano Shimona o Singapôr, a’r Mezzo-Soprano Gymreig Eirlys Myfanwy Davies.
Bydd hanner cyntaf y cyngerdd yn cynnwys perfformiad cyntaf y byd o fersiwn newydd o stori “Peace Child”, o flaen perfformiadau dilynol yng Ngŵyl Ljubljana yn Slofenia, ac ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ar Ddiwrnod y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Dave Danford, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, “Rydym yn falch iawn o groesawu Syr Karl Jenkins yn ôl i Langollen yr haf hwn i arwain y perfformiad arbennig hwn o “Un Byd”. Dyma gyngerdd sy’n crisialu union ethos ein Heisteddfod a’r Cenhedloedd Unedig, gan ddod â phobl o wahanol genhedloedd a diwylliannau gyda’i gilydd mewn dathliad optimistaidd o undod.”